Clybiau Ceir

Mae bod yn berchen ar gar yn gallu bod yn gostus pan ystyriwch chi gost yswiriant, petrol, atgyweiriadau a threthi ffordd. Gallai bod yn aelod o Glwb Ceir arbed arian i chi.

Mae cerbydau Clwb Ceir ar gael i aelodau clwb 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae modd eu hurio fesul awr, dydd, neu hirach. Mae modd ymuno â

Chlwb Ceir Enterprise nawr.

Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am glybiau ceir gan CoMoUK.

 

Clybiau Ceir ar gyfer Busnesau

Mae manteision y Clwb Ceir ar gael beth bynnag fo’r angen, o gwmni bach sydd ag anghenion teithio busnes achlysurol i sefydliad cyhoeddus neu breifat mawr sydd â fflyd o geir pŵl.

Os oes angen car arnoch i fynd i gyfarfod busnes, ymweliad safle, apwyntiad â chleient neu i wneud gorchwyl bach amser cinio, Clybiau Ceir yw’r dewis amgen mwyaf cyfleus a chost-effeithiol, yn lle defnyddio ceir pŵl, tacsis, ceir hurio neu roi ad-daliadau i’ch cyflogeion am ddefnydd o geir personol.