Gorfodi Parcio

Mae gan Gaerdydd dîm o swyddogion gorfodi parcio sy’n annog pobl i barcio’n gyfreithlon, yn ddiogel ac yn ystyriol.

Mae ein cynllun Gorfodi Parcio Sifil yn ei gwneud yn ddiogelach i gerddwyr, yn haws i drafnidiaeth gyhoeddus ac yn well i’r gymuned anabl.

Cymerwch funud i feddwl cyn parcio eich car!

Caiff Hysbysiad Tâl Cosb ei gyflwyno i gerbydau sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon, am £50 neu am £70 gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

Mae timau Swyddogion Gorfodi Sifil yn targedu’r ardaloedd sy’n wynebu’r trafferthion mwyaf ac yn delio â phroblemau parcio ledled y ddinas. Bydd yr heddlu hefyd yn cyflwyno tocynnau i yrwyr sy’n parcio ar farciau igam ogam, sy’n achosi rhwystr ac sy’n parcio eu ceir mewn dull peryglus.

Am ragor o gyngor ar Orfodi Parcio ewch i wefan Cyngor Caerdydd.