Gwybodaeth

Caerdydd Diwrnod Di-Gar

#diwrnoddimceir

Ddydd Sul 12 Mai 2019, ymunwch â ni am hwyl a gweithgareddau i’r teulu yn Niwrnod Dim Ceir Caerdydd!

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am-4pm yng Nghanol Dinas Caerdydd ac estynnir gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiadau AM DDIM.

Mae’r digwyddiad y cynnwys gweithgareddau chwaraeon, arddangosiadau, cerddoriaeth fyw, dawnsio a’n Parêd Beiciau yn y prynhawn!

Y Parêd Beiciau Bling

Ar ddiwrnod Dim Ceir eleni, rydym eisiau dangos y beiciau gorau y nein Parêd Beiciau.

Allwch chi feddwl am ffyrdd difyr o addurno beic?

Dewch â’ch beic wedi’i addurno ar y diwrnod i fynedfa Parc Bute gyferbyn â Boulevard De Nantes am 2:30pm ac ymunwch â’r parêd o feiciau arbennig gan gynwys beiciau ‘boom’ cerddorol a beiciau wedi’u haddasu’n benodol.

Un o uchafbwyntiau ein Diwrnod Dim Ceir yw ein partneriaeth gyda HSBC UK Let’s Ride, 11am – 3pm. Dewch i deithio heibio rhai o dirnodau Caerdydd ar gefn beic a gweld y ddinas â llygaid newydd. Digwyddiad i’r teulu ar ffyrdd heb geir yw hwn ac felly gallwch gymryd eich amser a mwynhau’r achlysur!

Gallwch gofrestru i gael lle AM DDIM ar eich cyfer chi a’ch teulu yn www.letsride.co.uk/events/cardiff