Gât Fysus

Mae Prosiect Gwella Trafnidiaeth Gorllewin Canol y Ddinas yn cysylltu â chyflenwi cyfnewidfa fysus newydd y Sgwâr Canolog a bydd yn darparu gwelliannau sylweddol i rwydwaith bysus Canol y Ddinas o ran dibynadwyedd ac effeithlonrwydd gwasanaeth.

Cyfnewidfa Sgwâr Canolog

Bydd y gyfnewidfa (ffig 1) yn darparu cyfleuster o ansawdd uchel ar gyfer Caerdydd a’r Ddinas-ranbarth. Bydd yn darparu ar gyfer gwasanaethau bysus a choetsys lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd gan y gyfnewidfa swyddogaeth bwysig o ran rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy Caerdydd. Nod Prosiect Gwella Trafnidiaeth Gorllewin Canol y Ddinas yw creu cysylltiadau a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn fwy deniadol i bobl deithio’n gyfan gwbl trwy ddulliau cynaliadwy ledled y ddinas.

Gât Fysus Heol y Porth

Bydd ein cynigion yn blaenoriaethu bysus sy’n rhedeg ar hyd Heol y Porth trwy gyflwyno gât fysus (ffig 2) a fydd yn lleihau nifer y cerbydau sy’n defnyddio’r llwybr hwn. Mae gan hyn y potensial i leihau lefelau traffig 30% a fyddai’n cyfrannu’n sylweddol at fynd i’r afael â’r materion ansawdd aer presennol ar Heol y Porth.

Beth yw gât fysus?

Mae gât fysus yn rhan fer o’r ffordd sydd wedi’i blocio i’r holl draffig ac eithrio bysus, beiciau a thacsis. Ni chaniateir i draffig cyffredinol yrru mewn gât fysus oni bai ei fod wedi’i awdurdodi i wneud hynny. Bydd cerbydau y caniateir iddynt ddefnyddio gât fys yn cael eu nodi gydag arwyddion.

Sut fydd hyn yn gweithio?

Bydd gât fysus wedi’i lleoli wrth y gyffordd rhwng Heol y Porth a Heol y Parc.

Bydd gât fysus yn gweithredu i’r ddau gyfeiriad. Bydd y gât fysus tua’r gogledd wedi’i lleoli yn Heol y Porth Isaf (y rhan o Heol y Porth rhwng Heol y Parc a Stryd Wood) a Heol y Parc, i’r dwyrain o Stryd Havelock. Bydd y gât fysus tua’r de rhwng Plas y Neuadd a’r Gwter.

Cynigir newidiadau rhwydwaith lleol sy’n darparu llwybr i draffig cyffredinol osgoi’r gât fysus. Bydd Heol y Parc, rhwng Heol Scott a Stryd Havelock, yn rhedeg tua’r dwyrain yn unig, a bydd y cyfyngiad unffordd presennol ar Stryd Havelock yn cael ei wrthdroi i gyfeiriad y de yn unig.

Bydd traffig cyffredinol yn gallu troi o gwmpas cyn y gât fysus tua’r de trwy Blas y Neuadd, Heol Eglwys Fawr a’r Gwter, lle mae’n rhaid i bob cerbyd droi i’r dde. Bydd busnesau a thrigolion yn derbyn gwybodaeth i ddangos sut y byddwn yn cynnal gofynion mynediad ar ôl cyflwyno’r gât fysus.