Ffordd osgoi safleoedd bysus

Ffig 1 – Ffordd osgoi safleoedd bysus

Mae ffyrdd osgoi safleoedd bysus (ffig 1) wedi’u hymgorffori yn nyluniad y Llwybr Beicio ar hyd llwybr Gorllewin Canol y Ddinas. Wrth ffyrdd osgoi safleoedd bysus, mae’r llwybr beicio yn parhau y tu ôl i’r safleoedd bysus, gan ddarparu gwahaniad parhaus oddi wrth draffig ceir i feicwyr.

Sut maen nhw’n cyd-fynd â’n cynigion?

Cynigir ffordd osgoi safleoedd bysus mewn dau leoliad ar hyd llwybr Gorllewin Canol y Ddinas:

  • Safleoedd bysus i gyfeiriad y gogledd Stryd y Castell GA – GC, gyferbyn â Ffordd y Brenin.
  • Safleoedd bysus JA – JD tua’r dwyrain Stryd Wood.

Ar Heol y Porth, bydd y llwybr beicio yn uno yn lle hynny â’r ffordd ddeuol yng nghyffiniau pob safle bysus. Ni ellir defnyddio ffyrdd osgoi safleoedd bysus Heol y Porth oherwydd prinder lle.

Beth yw ffordd osgoi safle bysus?

Pan fydd llwybr beic ar wahân yn agosáu at safle bysus, mae’n cael ei gyfeirio ar hyd cefn yr ardal lle mae teithwyr yn mynd ar y bws, gan ganiatáu i feicwyr ‘osgoi’ y safle bysus. Darperir rampiau i fyny ac i lawr y trac beicio ar bob ochr i’r safle bysus, yn ogystal â nodweddion sydd wedi’u cynllunio i annog beicwyr i arafu a bod yn ymwybodol o gerddwyr.

Mae teithwyr bysus yn croesi’r trac llwybr beicio pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, gan ddefnyddio croesfan sebra. Os yw beiciwr yn gweld rhywun yn croesi’r llwybr beicio o’i flaen, dylai arafu neu ildio.

Mae teithwyr yn mynd i’r ardal ‘ynys’ o’r llwybr cerdded er mwyn mynd ar y bws. Mae’r ardaloedd aros hyn o leiaf 2.5m o led. Bydd bysus yn defnyddio rhybuddion clywedol a gweledol i hysbysu teithwyr eu bod yn dod oddi ar y bws mewn safle bysus gyda lôn feicio gyfagos ac yn defnyddio’r mannau croesi wedi’u marcio

Hygyrchedd

Mae croesfannau sebra wrth ffyrdd osgoi safleoedd bysus er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i deithwyr â nam symudedd groesi’r llwybr beicio. Mae croesfannau sebra yn darparu ymwybyddiaeth i feicwyr bod cerddwyr yn croesi’r llwybr beicio ac yn rhoi mwy o hyder i deithwyr bysus anabl. 

Bydd yr ynys safleoedd bysus o leiaf 2.5m o led. Bydd hyn yn caniatáu i fws ddefnyddio ramp mynediad ac i ddefnyddwyr cadair olwyn allu mynd arno neu oddi arno.

Mae nifer sylweddol o bobl yn defnyddio beiciau fel cymorth symudedd. I’r bobl hyn, mae llwybrau beic ar wahân gyda ffyrdd osgoi safleoedd bysus yn darparu amgylchedd mwy diogel a mwy cyfforddus iddynt basio.