Ein cynigion

  • Llwybrau beicio ar wahân ar Stryd y Castell, Stryd Wood a Heol y Porth, gan wneud lle pwrpasol i feicwyr
  • Cyfyngiadau traffig newydd i reoli symudiadau cerbydau trwy Ganol y Ddinas, mynd i’r afael â thagfeydd a gwella ansawdd aer.
  • Mesurau blaenoriaeth bysus ar Heol y Porth er mwyn gwella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd bysus.
  • Newidiadau i rai cynlluniau a safleoedd bysus, gan gynnwys ffyrdd osgoi safleoedd bysus newydd ar gyfer beicwyr.
  • Gwelliannau cyfanwerthol i dir y cyhoedd, er mwyn creu strydoedd mwy croesawgar a chynhwysol i unigolion a chymunedau eu mwynhau.
  • Croesfannau cerddwyr a beiciau newydd a gwell mewn dros 20 o leoliadau, i wneud cerdded a beicio yn haws ac yn fwy deniadol.
  • Gwell cysylltiadau â’r Sgwâr Canolog trwy ddulliau cynaliadwy, gan gynnwys newidiadau i’r rhwydwaith priffyrdd i hwyluso’r gyfnewidfa fysus newydd.