Stryd y Castell

Gwelliannau ar gyfer beicio

  • Lôn feicio ar wahân ddwyffordd newydd o Bont Caerdydd i Boulevard de Nantes.
  • Yn Boulevard de Nantes, bydd beicwyr yn parhau ar hyd lôn feicio ddeuffordd arall ar wahân trwy gam goleuadau traffig penodol ar gyfer beiciau.
  • Ar Bont Caerdydd, bydd beicwyr yn parhau ar Daith Taf neu Feicffordd 4 i’w chyflawni yn rhan o gam arall

Gwelliannau ar gyfer cerddwyr

  • Croesfannau newydd gydag arwyddion i gerddwyr ar bob rhan o gyffordd Boulevard de Nantes. Disodli’r danffordd bresennol gyda man croesi ar yr un lefel.
  • Rhoi arwyneb newydd i’r llwybr cerdded a gwella’r parth cyhoeddus.
  • Ardal ddyrchafedig newydd o flaen Castell Caerdydd.

Newidiadau i fysus

  • Addasu cynlluniau safleoedd bysus i gynnwys ffyrdd osgoi ar gyfer beicwyr.
  • Bydd y lôn fysus tua’r gorllewin yn cael ei hymestyn i’r gorllewin o’r gyffordd â Heol y Porth tuag at Bont Caerdydd, gan gymryd un lôn draffig.
  • Lleihau’r traffig yn yr ardal yn gyffredinol.

Dyluniad a chynllun y ffordd

  • Cael gwared ar un lôn draffig tua’r dwyrain, ar Stryd y Castell, i wneud lle ar gyfer y lôn feicio newydd.
  • Bydd y ddwy ran uwch ar Stryd y Castell yn cael eu huno i greu darn uwch estynedig.