Hyfforddiant Beicio i Oedolion

Os yw beicio’n newydd i chi, dydych chi ddim wedi bod ar gefn beic ers sbel neu rydych chi’n hen law, gallai Hyfforddiant Beicio i Oedolion eich helpu i feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch chi i feicio’n fwy rheolaidd ac effeithiol. Gallwch chi bellach gadw sesiwn 1 awr o hyfforddiant i oedolion am ddim ar-lein.

Gall ein hyfforddwyr eich dysgu chi i feicio hyd at lefel 3 y Safon Genedlaethol a byddan nhw’n teilwra’r sesiwn ar eich cyfer.

Lefel 1 (Oddi ar y Ffordd): Yn y cwrs, fe ddysgwch chi am wiriadau sylfaenol, mynd ar feic a dod oddi arno, cychwyn a stopio, rheoli sylfaenol, gêrs, edrych o’ch cwmpas ac arwyddo.

Lefel 2 (Strydoedd Preswyl): Mae hwn yn cynnwys eich safle ar y ffordd, ymwybyddiaeth, pasio cerbydau wedi parcio, cyffyrdd a chynllunio taith.

Lefel 3 (Prif Ffyrdd): Mae hwn yn trafod paratoi, eich safle ar y ffordd, pasio traffig sy’n ciwio, rheoli cerbydau eraill, goleuadau traffig a chylchfannau. Dylech chi ddod â’ch beic, ond os nad oes beic gennych chi, mae gennym ni opsiynau i ddarparu un ar gyfer y sesiwn.

Rydym ni’n argymell eich bod yn gwisgo helmed a siaced lachar.

Cyn i ni ddechrau ar unrhyw hyfforddi, gwiriwn ni fod eich beic yn addas h.y. y maint cywir, brêcs yn gweithio’n iawn, digon o awyr yn y teiars ayb. Gall ein hyfforddwyr wneud mân waith trwsio ac addasiadau a chynnig cyngor ar hyn ond dewch yn gynt os ydych chi’n meddwl y gallai fod angen hyn.

Canslo ac Aildrefnu:

Os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu sesiwn, rhowch 24 awr o rybudd i’n hyfforddwyr. Yn anffodus os na wnewch hynny ni fyddwn yn gallu cynnig hyfforddiant i chi yn y dyfodol. Os oes gennych chi ymholiadau neu gwestiynau, cysylltwch â ni yma.