Gwybodaeth

Rwy’n Fyfyriwr

Mae gwybod sut mae teithio yn eich dinas yn ddiogel ac yn hyderus, a gwybod faint yw ei bris, yn hawdd pan rydych chi’n gwybod lle i edrych. Mae apiau ac offer eraill yn gallu eich helpu i gynllunio ymlaen llaw. Bydd y cynghorion isod hefyd yn eich helpu.

Cerdded

Beicio

  • Prynwch neu llogwch feic.
  • Trefnwch hyfforddiant beicio AM DDIM yma.
  • Defnyddiwch y Map Cerdded a Beicio i gynllunio’ch llwybr.
  • Defnyddiwch glo da a chlowch eich beic mewn rhywle diogel – Cloeon D sydd orau.

Bws

  • Cofiwch na allwch chi ddefnyddio tocyn gan un cwmni ar wasanaeth cwmni arall, felly chwiliwch ar Traveline Cymru i gael gwybod pa gwmni bws sy’n cynnig gwasanaeth i le rydych chi am fynd.
  • Os ydych chi’n 18 oed neu iau, gallwch chi hefyd dalu llai gyda fyngherdynteithio [insert link to Welsh] a gallwch chi ddefnyddio cerdyn neu ap Iff er mwyn osgoi cario arian mân.
  • Mae modd cyrraedd pob safle prifysgol yng Nghaerdydd ar y bws. Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru neu lawrlwythwch yr ap.
  • Mae rhagor o wybodaeth am gerdyn Metwibiwr yma.

Trên

  • Os ydych chi’n 15 oed neu’n iau, gallwch chi dalu llai. Mae pobl hŷn na 15 oed yn gallu cael cerdyn rheilffordd i berson ifanc.
  • Gallwch chi fynd â’ch beic ar y trên, ond efallai y bydd yn rhaid cadw lle yn gyntaf (yn rhad ac am ddim).
  • Os yw eich taith yn dechrau’r tu allan i Gaerdydd, gallwch chi hefyd ychwanegu teithiau bws at eich tocyn rheilffordd os bydd angen hynny arnoch chi.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall: