Gwybodaeth

Rwy’n Cymudo

Mae llawer o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd.  Mae’r rhan fwyaf o weithwyr – rhwng 76% ac 84% – sy’n teithio i Gaerdydd bob dydd o ardaloedd cyfagos yn gwneud hynny yn y car (Cyfrifiad 2011).

Dim ond hyn a hyn o leoedd parcio sydd gan y ddinas ar gyfer ceir ac mae cymudwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio moddau teithio llesol fel cerdded, beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus pan fo modd.

Bydd hynny’n helpu i leihau llygredd a thagfeydd yn y ddinas a bydd yn ei gwneud yn lle mwy diogel a braf.

Mae’r tudalennau moddau teithio ar y wefan hon yn cynnig rhagor o wybodaeth am foddau teithio cynaliadwy gan gynnwys tocynnau a llwybrau ac am barcio a theithio a pharcio yn y ddinas os oes rhaid i chi ddod â’ch car.