Teithio Llesol a’r Daith Ysgol

Cefnogi ysgolion i annog cerdded, beicio a sgwtio i’r daith ysgol.
Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi ysgolion i ystyried dewisiadau amgen yn lle teithio yn y car i’r ysgol. Gall annog cerdded, beicio a sgwtio i’r ysgol helpu i leihau traffig, gwella diogelwch a lleihau llygredd aer. Gall hefyd helpu i greu amgylchedd braf a deniadol.
Mae gan Gyngor Caerdydd swyddogion Teithio Llesol i Ysgolion i gefnogi pob ysgol i ddatblygu Cynllun Teithio Llesol. Gan weithio gyda’n gilydd, y cam cyntaf yw ystyried sut a pham mae pobl yn teithio i’r ysgol yn y car. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, mae pob ysgol wedyn yn datblygu cynllun gweithredu. Bydd y cynllun gweithredu’n nodi sut y gall eich ysgol annog lleihad yn y defnydd o geir a chynyddu dulliau teithio llesol.
Gall datblygu eich cynllun fod yn brofiad hwyliog a dysgu cydweithredol sy’n ategu rhaglenni’r ysgol e.e. y Rhaglen Ysgolion Iach ac Eco-Sgolion.
Yn ogystal â chymorth gan swyddogion, mae’r Cyngor wedi llunio canllawiau ar lunio Cynllun Teithio Llesol. Edrychwch ar ein hastudiaethau achos i weld beth mae ysgolion Caerdydd wedi bod yn ei wneud i annog teithio llesol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau y gallwch eu rhoi yn eich cynllun, cliciwch Gweithredu.
Os hoffech gael cymorth gan swyddog i greu’ch Cynllun Teithio Llesol neu os oes gennych gwestiynau cysylltwch â cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk