Datblygu eich Cynllun Teithio Llesol
Mae Cyngor Caerdydd wedi paratoi canllawiau i’ch helpu i ysgrifennu eich Cynllun Teithio Llesol. Mae’n rhoi proses gam wrth gam i ysgrifennu’ch cynllun. Mae’r canllawiau’n cynnwys holiadur enghreifftiol i rieni a disgyblion a thempled enghreifftiol ar gyfer cynllun teithio llesol. Nid oes yn rhaid i chi ddilyn y templed hwn a gallwch ddewis fformat sy’n addas i chi. Argymhellir bod pob cynllun teithio lles yn cynnwys camau gweithredu i helpu’ch ysgol i ganolbwyntio ar beth y bydd yn ei wneud i annog a hyrwyddo teithio llesol.