Gweithredu!
Mae Cyngor Caerdydd wedi creu rhestr o adnoddau, mentrau, gweithgareddau a chymorth teithio llesol sydd ar gael i ysgolion yng Nghaerdydd. I gynllunio’ch gweithgareddau, nodwch yn gyntaf pa fath o fenter rydych yn chwilio amdani ac yna cliciwch y dolenni isod i weld beth sydd ar gael:
Dechrau Arni – cymorth i greu cynllun teithio llesol
Sgiliau a chymorth – cymorth i ddysgu reidio beic, sgwter neu deithio’n annibynnol
Rhaglenni – cynigir gan sefydliadau ac elusennau lleol i gefnogi mwy o deithio llesol i ysgolion
Adnoddau addysgol– Adnoddau cwricwlwm
Cyfleusterau – cymorth i wella’r amgylchedd ffisegol gylch yr ysgol
Cynlluniau Gwobrwyo ac Achredu – Dysgwch am ein plac achredu i’r Cynllun Teithio Llesol
Rydym wedi cynnwys mentrau gan:
Gyngor Caerdydd
Strydoedd Byw
Beicio Cymru
and
Sustrans Cymru.
Mae gan bob un godau lliwiau i’ch helpu i nodi pwy sy’n cynnig y gweithgaredd. Lle y bo’n bosibl rhoddir dolen we uniongyrchol, manylion cyswllt a gwybodaeth bellach fel y gallwch gadw neu gofrestru eich diddordeb yn eich holl fentrau o ddewis. Cynigir yr holl fentrau a nodir gydag (f) am ddim.