Adnoddau a Chefnogaeth Addysgiadol
Rhaglen dysgu ac addysgu Bagloriaeth Cymru (f)
Pecyn o ddeunyddiau am ddim i’r dosbarth ar gyfer Bagloriaeth Cymru i baratoi dysgwyr ar gyfer Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Cyfnod Allweddol 4 o dan y teitl Byw’n Gynaliadwy. Mae’r adnoddau wedi cael eu paratoi ar y cyd a chwe ysgol arall ledled Cymru. Maen nhw’n defnyddio heriau byd-eang go iawn ym maes cludiant i roi deunyddiau i athrawon ar gyfer rhaglen ddysgu chwe awr. Lawrlwythwch yr adnoddau yma https://www.sustrans.org.uk/our-blog/projects/2019/wales/welsh-school-curriculum-resources/
Cyfnod Allweddol Tri – Llythrennedd a Theithio Llesol
Gellir darparu pecyn o wersi a deunyddiau dosbarth rhad ac am ddim ar gyfer Cyfnod Allweddol fel cynllun gwaith i ddisgyblion Blwyddyn 8. Mae’r pecyn yn cynnwys cynllunio gwersi, cyflwyniad PowerPoint a thaflenni gwaith. Lawrlwythwch yr adnoddau yma https://www.sustrans.org.uk/our-blog/projects/2019/wales/welsh-school-curriculum-resources/
Cyfnod Allweddol Dau – Llythrennedd a Theithio Llesol
Mae adnoddau Cyfnod Allweddol Dau yn mynd i’r afael â phob elfen ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd trwy gyfres o weithgareddau unigol sy’n gysylltiedig â’r pwnc teithio llesol. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys cynlluniau gwerthu, cyflwyniad mapio ac astudiaeth achos. Lawrlwythwch yr adnoddau yma https://www.sustrans.org.uk/our-blog/projects/2019/wales/welsh-school-curriculum-resources/
Cynllun Gwers Parthau Cerdded – Cyfnod Allweddol 1
Cynllun Gwers i ennyn diddordeb plant mewn mapio parth cerdded o amgylch yr ysgolhttps://www.livingstreets.org.uk/walk-to-school/primary-schools