App Parcio Caerdydd
Mae Parcio Caerdydd yn ap rhad ac am ddim sy’n helpu gyrwyr i dod o hyd i fannau parcio ‘talu ac arddangos’ diogel a chyfreithiol yn gynt ac yn haws.
Gallwch chi weld lle y mae mannau ar gael cyn teithio a chael y diweddaraf drwy ddefnyddio App Parcio Caerdydd. Mae’r ap hefyd yn cynnwys hidlwr i weld lle mae mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas ar gael yng nghanol y ddinas. Mae dyfeisiau synhwyro yn y mannau parcio yn cofnodi gwybodaeth gywir am y mannau sydd ar gael. Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y ddinas hefyd yn defnyddio’r system.
Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori gyrwyr i gadw’r gyfraith ar ddefnyddio ffonau wrth yrru mewn cof, sef ei bod yn anghyfreithlon dal ffôn symudol a gyrru car neu feic modur ar yr un pryd. Mae modd i chi weld rhagor am hynny yma.
Sut mae synwyryddion parcio’n gweithio
Mae’r synwyryddion yn gywir iawn ac yn cofnodi’r union amser y mae cerbyd yn cyrraedd ac yn gadael man parcio. Caiff y synwyryddion eu cysoni drwy rithiwr canolog. Mae’r system hefyd yn darparu gwybodaeth i Swyddogion Gorfodi Sifil y ddinas.