Strydoedd Ysgol

Mae ceir yn aml yn llenwi ffyrdd ger gatiau ysgolion – gyda llawer ohonyn nhw’n peryglu plant ac yn cyfrannu at lefelau llygredd uchel yn yr ardal.

Ein dymuniad ni yw y gall plant Caerdydd fynychu’r ysgol mewn ffordd mor ddiogel â phosibl ac o 6 Ionawr 2020 rydyn ni wedi bod yn treialu cynllun strydoedd ysgol i helpu i leihau traffig o amgylch mynedfeydd rhai ysgolion yn ystod oriau brig cyrraedd a gadael. Yn ystod y tymor, ni chaniateir i gerbydau modur yrru ar y strydoedd o amgylch ein hysgolion peilot ar ddyddiau’r wythnos rhwng 8.30am a 9.15am a rhwng 2.45pm a 3.45pm.

Mae arwyddion yn rhoi gwybod i yrwyr am y cyfyngiadau wrth fynedfa stryd yr ysgol a bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei roi i unrhyw gerbydau sy’n mynd iddi heb hawl yn ystod y cyfnodau pan fo’r cyfyngiadau ar waith. Gall preswylwyr wneud cais am drwydded am ddim, ac mae gan ddeiliaid bathodynnau glas fynediad bob amser.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Living Streets WOW

Gweld Project

Dolenni i Sefydliadau rydyn ni’n gweithio â hwy

Gweld Project