Information Pages

Ysgolion Teithio Llesol: Polisi Preifatrwydd:

Mae’r Cynllun Ysgolion Teithio Llesol yn rhan o Gyngor Dinas Caerdydd ac yn cefnogi ysgolion i ystyried dewisiadau amgen yn lle teithio yn y car i’r ysgol. At ddibenion casglu gwybodaeth, Cyngor Caerdydd yw’r Rheolwr Data.

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio bod Cyngor Caerdydd yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn anfon eich fideos atom.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae Ysgolion Teithio Llesol yn casglu’r data personol canlynol:

  • Eich enw llawn
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Eich recordiad fideo

Cesglir y data hwn er mwyn cyfathrebu â chi ynglŷn â’ch recordiad fideo a chyhoeddi eich fideo ar ein gwefan a’n cyfrif Twitter.

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych yn darparu’r data a gasglwn yn uniongyrchol i Ysgolion Teithio Llesol. Rydym yn casglu data a phrosesu data pan fyddwch yn anfon eich cyflwyniad fideo atom

Sut y byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Ysgolion Teithio Llesol yn casglu eich data er mwyn i ni allu gwneud y canlynol:

  • Cyfathrebu â chi drwy e-bost ynglŷn â’ch cyflwyniad fideo
  • Creu fideo teithio llesol ar gyfer ein gwefan a’n cyfrif Twitter

Ein sail gyfreithlon

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data yw caniatâd.  Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni ar ymgynghoriad@caerdydd.gov.uk.

Sut byddwn yn storio eich data?

Mae Ysgolion Teithio Llesol yn storio eich data ar ein gweinydd e-bost yn ddiogel ar cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk

Bydd Ysgolion Teithio Llesol yn cadw eich negeseuon e-bost am 2 fis, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn defnyddio eich cyflwyniad i greu collage fideo. Ar ôl uwchlwytho eich fideo ar ddiwedd y cyfnod hwn, bydd eich negeseuon e-bost yn cael eu dileu’n ddiogel.

Bydd cyflwyniadau fideo yn cael eu cadw ar cadwcaerdyddisymud.co.uk am gyfnod o 2 flynedd.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Ysgolion Teithio Llesol wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i gysylltu ag Ysgolion Teithio Llesol a gofyn am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Ysgolion Teithio Llesol gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Ysgolion Teithio Llesol  gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Ysgolion Teithio Llesol ddileu eich data neu fideo personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Ysgolion Teithio Llesol  gyfyngu prosesu eich data a fideo personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i wrthod prosesu – Mae gennych hawl i wrthod i Ysgolion Teithio Llesol  brosesu eich data a fideo personol, o dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb ichi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein e-bost:

Ffoniwch ni ar: 02920873637

Neu ysgrifennwch atom: Ystafell 412, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, CAERDYDD CF10 4UW

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler y Polisi Preifatrwydd llawn yma; https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Ymwadiad/Pages/default.aspx <https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Home/New_Disclaimer/Pages/default.aspx>

Mae gwefan Ysgolion Teithio Llesol yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, fel Sustrans, Welsh Cycling neu Living Streets dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Mae Ysgolion Teithio Llesol yn adolygu eu polisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 21 Awst 2020.

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Ysgolion Teithio Llesol, 

cysylltwch â ni ar y canlynol;

 Anfonwch e-bost atom ar: cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk

Ffoniwch ni ar: 02920873637

Neu ysgrifennwch atom: Ystafell 412, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, CAERDYDD CF10 4UW

Neu, gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyngor Caerdydd yma;

 Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth
 Neuadd y Sir
 Glanfa’r Iwerydd
 Caerdydd
 CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad yw Ein Cwmni wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei wefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113.