Gwybodaeth

Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd (CHaSPS)

Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd (CHaSPS)

Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy wedi’i ddatblygu fel estyniad i’r Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (CYIRhC) ac mae’r meini prawf yn cyfateb yn glir i Wobr Ansawdd Genedlaethol CYIRhC.

Felly gall lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant iach gael ei ddiffinio fel un sy’n ‘weithredol yn hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol y gymuned drwy gamau gweithredu positif. Gwneir hyn drwy ddatblygu polisi, cynllunio strategol a datblygu staff, ac o ran ethos, yr amgylchedd corfforol a pherthnasau cymunedol.’

Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gynllun achredu cenedlaethol sy’n cydnabod lleoliadau cyn-ysgol fel cyfranwyr at iechyd a lles plant. Bydd lleoliadau sy’n cofleidio CHaSPS yn cael eu hachredu a’u cydnabod am eu hymdrechion yn hyrwyddo iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol.

Bydd lleoliadau’n gweithio at gyflawni Statws CHaSPS drwy ddangos tystiolaeth o’r gwaith da a gynhaliwyd yn erbyn bob maen prawf am y testunau iechyd hyn;

  • Cam cychwynnol,
  • Gweithgareddau Corfforol a Chwarae Actif,
  • Maeth ac Iechyd Geneuol,
  • Iechyd Meddwl ac Emosiynol, Lles a Pherthnasoedd,
  • Diogelwch,
  • Amgylchedd,
  • Hylendid,
  • Iechyd a Lles yn y Gweithle

Mae achrediad yn rhan gyffrous a phwysig o’r broses CHaSPS lle mae lleoliadau yn cael eu llongyfarch ac yn cael cydnabyddiaeth swyddogol o’r gwaith y maent wedi’i wneud. Mae lleoliad Cyn-ysgol Iach yn un sydd nid yn unig yn gweithio tuag at achrediad, ond sydd hefyd yn ymgorffori a chroesawu iechyd a lles yn ei fywyd bob dydd.