Ysgolion
Mae gan Gyngor Caerdydd weledigaeth erbyn 2030 i newid y ffordd y mae pobl yn teithio o amgylch y ddinas a gwneud newidiadau sylweddol er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ar gyfer aer glân ac i greu cymunedau diogel ac iach.
Rydyn ni, y Tîm Ysgolion Teithio Llesol, yn gweithio gydag ysgolion ledled Caerdydd i’w cefnogi i leihau nifer y teithiau ceir i’r ysgol, a chynyddu teithio llesol fel cerdded, neu ddefnyddio beic neu sgwter. Mae’n ddyhead gan y Cyngor i bob ysgol yng Nghaerdydd fod â chynllun teithio llesol ar waith erbyn Ebrill 2022 ac rydyn ni’n gweithio gyda staff ysgolion a chymunedau ysgolion i gyflawni hyn.
Polisi Preifatrwydd Ffurflen Ganiatad
Sut mae plant yng Nghaerdydd yn teithio i’r ysgol.…
Sut hoffai plant yng Nghaerdydd deithio i’r ysgol…
Mae 49% o ddisgyblion Caerdydd yn defnyddio dull llesol i deithio i’r ysgol, er bod 73% eisiau gwneud hynny.
Dim ond 3% o ddisgyblion Caerdydd sy’n beicio i’r ysgol, er bod 32% eisiau gwneud hynny!
Peidiwch â dibynnu ar ein gair ni, dyma rai teuluoedd sydd wrth eu boddau yn teithio’n llesol i’r ysgol. Darllenwch ymlaen i weld pam eu bod nhw wedi gwirioni…
Cliciwch ar y dolenni isod am olwg agosach