Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Terfynau Cyflymder 20mya – Y wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithredu
Y sefyllfa genedlaethol:
Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford mai polisi Llywodraeth Cymru oedd pennu terfyn 20mya diofyn cenedlaethol ar gyfer ardaloedd preswyl. Ers hynny mae gwaith wedi bod ar y gweill i baratoi ar gyfer y newid hwnnw.
Yr amserlen a gynigiwyd oedd pasio’r offeryn statudol ym mis Hydref 2021 a gweithredu’r newid yn y gyfraith ym mis Ebrill 2023.
Beth fydd effaith 20mya diofyn yn ei olygu?
Pan fydd y ddeddfwriaeth yn newid, bydd pob ffordd â therfyn cyflymder 20mya diofyn. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya yn ôl y gyfraith. Bydd rhai ffyrdd yn parhau â therfyn cyflymder 30mya a bydd gan y rhain arwyddion fel sydd gan ffyrdd â therfynau cyflymder uwch ar hyn o bryd.
Caiff unrhyw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder 20mya eu tynnu ac ni fydd unrhyw arwyddion i’ch atgoffa am y terfyn cyflymder – yn debyg iawn fel ag y mae â’r ardaloedd terfyn cyflymder 30mya presennol.
Sut y caiff y terfynau newydd eu gorfodi?
Yr heddlu fydd yn gorfodi’r terfynau cyflymder. Fodd bynnag, mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda GanBwyll a Llywodraeth Cymru yn ystod y cam cyntaf i ddatblygu strategaeth orfodi.
Beth sy’n digwydd nawr?
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio prosiect yn ddiweddar i weithredu ardaloedd ‘Cam 1’ o haf 2021 cyn cyflwyno’r cynllun cenedlaethol. Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu trefniadau gorfodi ac i oresgyn problemau nas rhagwelwyd cyn cyflwyno’n llawn yn 2023.
Bwriedir i’r ardaloedd a ddewisir fod yn sampl gynrychioliadol o wahanol leoliadau sydd i’w cael ledled Cymru, gan gynnwys pentrefi, trefi a dinasoedd.
Dyma’r wyth lleoliad:
- Y Fenni, Sir Fynwy
- Canol Gogledd Caerdydd
- Glannau Hafren, Sir Fynwy
- Bwcle, Sir y Fflint
- Pentref Cilfriw, Castell-nedd a Phort Talbot
- Llandudoch, Sir Benfro
- Saint-y-brid, Bro Morgannwg
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Terfynau 20mya – Sefyllfa Caerdydd:
Mae terfynau 20mya ar waith mewn sawl rhan o’r ddinas yn barod ac mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo ers tro i ymestyn terfynau 20mya i bob ardal breswyl yn y ddinas. Mae Cyngor Caerdydd yn rhan o gynllun Cam 1 Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r prosesau technegol fel rhan o’r newid cenedlaethol i derfyn cyflymder 20mya diofyn. Bydd yr amserlen ar gyfer ymestyn terfynau cyflymder 20mya i bob ardal breswyl yng Nghaerdydd nawr yn dibynnu ar yr amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd a bennir gan Lywodraeth Cymru..
Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gweithredu unrhyw derfynau cyflymder 20mya newydd nes y daw’r ddeddfwriaeth hon i rym ond bydd yn sicrhau bod unrhyw derfynau dros dro a roddwyd ar waith fel rhan o fesurau cadw pellter cymdeithasol COVID19 yn rhai parhaol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y terfynau hyn yn aros mewn grym nes bod y terfyn diofyn yn dod yn gyfraith.
Prosiect Canol Gogledd Caerdydd:
Mae ardal Canol Gogledd Caerdydd yn cynnwys y wardiau canlynol
- Ystum Taf
- Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais
- Rhiwbeina
- Y Mynydd Bychan
Map Cam 1 o’r ardaloedd sy’n dangos yr ardal derfyn cyflymder 20mya newydd a’r lleoliadau y bydd y terfynau cyflymder 30mya yn parhau ar waith:
Bydd arwydd terfyn cyflymder 20mya yn yr ardal ond ni fydd llawer o farciau cylchol yn y stryd gan y bydd angen tynnu’r holl arwyddion pan fydd y terfyn cyflymder diofyn yn newid. Nodir yn glir ar y stryd lle mae’r terfynau lleol yn newid i 20mya felly dylai gyrwyr gadw llygad am y ‘pyrth’ hyn wrth iddynt fynd i mewn i’r ardal a’i gadael. Bydd neges gyfathrebu gadarn hefyd yn gysylltiedig â’r broses hon o gyflwyno’r terfynau yn ardaloedd cam 1.
Dolenni Defnyddiol:
https://llyw.cymru/cynnig-i-ostwng-y-terfyn-cyflymder-ar-strydoedd-preswyl-i-20mya
https://llyw.cymru/terfyn-cyflymder-20mya-i-ddod-yn-realiti-ar-ffyrdd-cymru-or-haf-hwn