Llogi Beic ar y Stryd

Yn rhan o gynllun llogi beic ar y stryd i Gaerdydd, bydd 500 o feiciau hunanwasanaeth ar y stryd ar gael ledled y ddinas mewn lleoliadau allweddol gan gynnwys canol y ddinas, safleoedd ac ardaloedd addysg uwch a daw’n rhan annatod o rwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy’r ddinas. Bydd modd defnyddio’r cynllun drwy borth ar-lein ac App.

 

Yr elusen feicio leol Pedal Power a fydd yn cynnal y system ac yn symud beiciau rhwng lleoliadau.

 

Mae Cyngor Caerdydd am gael adborth gan y cyhoedd o ran ble yr hoffen nhw weld lleoliadau llogi beic ledled y ddinas yn rhan o’r gwaith o gynllunio’r rhwydwaith sydd wrthi’n mynd rhagddo a bydd yn gofyn i bobl nodi eu syniadau mewn holiadur ar-lein byr.

 

Cynllun llogi beic ar y stryd Caerdydd:

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi i’r wasg yn swyddogol ar 19 Rhagfyr 2017 ac mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda’r gweithredwr, nextbike (UK) Ltd. Mae’r seilwaith i gynnal y cynllun yn cael cyllid drwy grant gan Lywodraeth Cymru a’r nod yw dod o hyd i noddwr sylweddol i gynorthwyo i’w roi ar waith ac i gynnig gwelliannau a chymhellion i grwpiau allweddol yn ystod cyfnod y contract.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project