Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

​​Rydym yn datblygu llwybr beicio newydd o ganol y ddinas i ardal Parc y Rhath.
Bydd y llwybr yn rhoi buddion allweddol fel:
  • hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy i’r ysgol,
  • cyflogaeth, a
  • chysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y llwybr yn cysylltu â llwybrau beicio eraill yn y dyfodol.

Bydd Cam 1 yn darparu beicffordd ar wahân newydd a llwybrau troed wedi’u huwchraddio ar Gae Rec y Rhath rhwng cyffordd Wellfield Road ac Alder Road.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys:
  • Gwelliannau i gyffordd Wellfield Road, Marlborough Road, Penylan Ro​ad, a Ninian Road drwy uwchraddio mannau croesi, croesfan feicio a newidiadau i gyfnodedd signalau traffig.
  • Disodli’r rhwystrau culhau’r ffordd ar Tŷ Draw Road gyda 4 croesfan i gerddwyr â ramp.
  • Gwelliannau i safleoedd bws a safle bws newydd ar Ninian Road.
  • Newidiadau i faes parcio Canolfan Gymunedol Penylan i wneud lle ar gyfer y beicffordd.
  • Gwella’r groesfan sebra ar gyffordd Pen-y-Wain Road a throedffordd a rennir i gerddwyr a beicwyr tuag at Ysgol Gynradd Parc y Rhath.
  • Uwchraddio’r llwybr troed o amgylch y cae chwarae a’r offer campfa.
  • Newidiadau i’r groesfan sebra ar gyffordd Alder Road ac atal traffig drwodd ar Alder Road.
Bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd Chwefror 2024.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y contractwr ar wefan Knights Brown neu drwy e-bostio talktous@knightsbrown.co.uk.

​​​​​​

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project

Gorllewin Canol y Ddinas: Heol y Porth Gât Fysus

Gweld Project