Papur Gwyn Trafnidiaeth

Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru.   Mae wedi ei ddatblygu yn sgil ymgynghori gyda miloedd o breswylwyr y ddinas ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth.

Mae opsiynau cyflawni’r weledigaeth drafnidiaeth gwerth £1 – 2 biliwn yn cael eu hystyried. Nod y weledigaeth yw trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a de ddwyrain Cymru drwy gyfres o brojectau a allai chwyldroi teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a’r cylch.

 

Gweld y datganiad i’r wasg ar y papur gwyn trafnidiaeth [​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd]

Yn amodol ar alw i mewn gan yr adran graffu.

 

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:

  • Metro Caerdydd – Llinellau tram-trên Cledrau Croesi Caerdydd a Chylch Caerdydd, yn cysylltu cymunedau’r presennol, a rhai newydd, ar hyd a lled y ddinas, yn cynnwys gorsafoedd newydd a gorsafoedd wedi eu hailwampio. Yn gweithio’n agos â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, byddwn yn cefnogi lansio system docynnau integredig, er mwyn i bobl allu teithio ar y trên ac ar fysys, a llogi beiciau, gan ddefnyddio un tocyn.
  • Trafnidiaeth Bws Wib – Gwella gwasanaethau drwy sefydlu rhwydwaith bysys traws-ddinas, wedi ei gysylltu â’r Metro newydd. Bydd hyn yn cynnwys dolen fws gylchol o amgylch canol y ddinas, fydd yn golygu teithiau traws-ddinas haws i bobl, a gorsafoedd bysys newydd yn nwyrain a gorllewin y ddinas. I wneud teithio ar y bws yn fwy fforddiadwy, mae’r Cyngor yn cynnig gweithio gyda gweithredwyr bysys i leihau prisiau i £1 ledled y ddinas.
  • Teithio Llesol a gwella ein strydoedd – Rhwydwaith seiclo diogel ac o ansawdd uchel, yn gwbl ar wahân i gerbydau eraill, erbyn 2026. Bydd hyn yn cynnwys dolen seiclo gyfan o amgylch canol y ddinas, fydd wedi ei chysylltu â chwe beicffordd, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer mannau ledled y ddinas. Bydd cynllun llogi beiciau nextbike yn cael ei ehangu i o leiaf 2000 o feiciau a bydd cyfleoedd beicio rhanbarthol newydd yn cael eu cyflwyno i roi cyfle i ragor o bobl i ymuno â’r cynllun. Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno ‘Menter Strydoedd Iechyd’, fel bod strydoedd yn cael eu defnyddio eto fel mannau cyhoeddus iach i’r cyhoedd eu mwynhau, yn cynnwys uchafswm cyflymdra 20mya ledled y ddinas.
  • Defnyddio ceir yn y dyfodol – Cefnogi’r newid i gerbydau ag allyriadau is, er enghraifft drwy gynyddu nifer y mannau gwefru trydan yn ddirfawr ar hyd Caerdydd ac ehangu argaeledd ceir clwb ar hyd a lled y ddinas. Bydd technoleg CLYFAR yn defnyddio gwybodaeth deithio amser go iawn i fonitro ac ymateb i ddata trafnidiaeth, traffig a pharcio, yn lleihau tagfeydd ar goridorau trafnidiaeth CLYFAR.
  • Seilwaith i gefnogi’r rhanbarth ehangach – Mae’r Cyngor yn cynnig rhwydwaith bysys gwib gyda gwasanaethau bws rheolaidd a fforddiadwy yn gweithredu pob 15-20 munud ar adegau prysur. Bydd y rhwydwaith hwn yn cysylltu trefi ar hyd a lled y dinas-ranbarth â chanol Caerdydd.

 

Mae gwelliannau sylweddol hefyd yn cael eu gwneud i bob prif lwybr i’r ddinas, gan gynnwys:

  • Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-Orllewin:
    Gwelliannau â’r nod o wella hygyrchedd ar gyfer cymunedau Llantrisant a Thonysguboriau i ac o Gaerdydd. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i godi cyfnewidfa drafnidiaeth yn Waungron Road fydd yn cysylltu â chyfleuster Parcio a Theithio newydd ar Gyffordd 32 Traffordd yr M4. Mae opsiynau i fodurwyr newid i deithio ar y bws yn y coridor yn cael eu hystyried hefyd, gyda chyswllt bws gwib ar yr A4232 i Fae Caerdydd.
  • Coridor y gogledd:
    Mae cynllun peilot CLYFAR ar waith ar gyfer rhan fawr o goridor yr A470 rhwng Coryton a Gabalfa ac mae disgwyl y caiff ei gyflwyno yn 2020. Mae Coridorau CLYFAR yn defnyddio data ar y pryd i reoli symudiad traffig, trafnidiaeth gyhoeddus, cerddwyr a beicwyr. Bydd hyn yn golygu y gall teithwyr wneud dewisiadau doethach o ran sut maen nhw’n dymuno teithio, a chynllunio’u teithiau cyn teithio.
  • Coridorau’r Gogledd a’r De Ddwyrain:
    Mae opsiynau’n cael eu hystyried i wella cysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith cerdded a beicio.
  • Coridor y de-orllewin:
    Mae nifer o opsiynau’n cael eu hystyried i leihau tagfeydd rhwng Penarth a Chaerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys cynllun beiciau trydan peilot, cyfleusterau cyfnewidfa yng ngorsaf drenau Cogan, ymchwilio i ddichonolrwydd cyfleusterau cerdded a beicio o amgylch pentir Penarth, a chyswllt bws Morglawdd Caerdydd rhwng Penarth a Chaerdydd.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project