Beicio

Gall beicio fod yn ffordd gyflym, effeithlon, rhwydd a difyr o deithio, yn enwedig ar gyfer siwrneiau sydd ychydig yn rhy bell i’w cerdded.

Gall eich helpu i arbed arian a’ch gwneud yn fwy heini ac iach.  Mae modd teithio mor gyflym ag y mynnoch chi yn yr awyr iach ac mae mwy a mwy o bobl yn dewis beicio i fynd i’r gwaith ac i fwynhau.

Mae gan Gaerdydd lwybrau ar y ffordd a llwybrau braf mewn mannau gwyrdd. Mae gwelliannau’n cael eu gwneud yn barhaus er mwyn helpu’r rhwydwaith beicio i dyfu a gwella.

Nod yr adnoddau ar y tudalennau hyn yw eich helpu i wneud beicio’n rhan o’ch opsiynau teithio.