Cynllunio’ch Taith
Mae rhwydwaith beicio Caerdydd yn tyfu. Mae gennym ni nifer o lwybrau gydag arwyddion sy’n eich tywys trwy strydoedd ochr tawel ac oddi ar y ffyrdd mawr gan osgoi traffig yn gyfan gwbl.
Ewch i traveline-Cymru.info i gael cymorth gyda’ch taith feicio.
Mae Map Cerdded a Beicio Caerdydd RHAD AC AM DDIM yn dangos pob llwybr i gerddwyr a beicwyr ac mae’n fap defnyddiol iawn o’r ddinas.
I gael copi o’r map, cysylltwch â ni ar beicio@caerdydd.gov.uk.
Am deithiau beicio yng Nghaerdydd, dilynwch y ddolen isod – outdoorcardiff.com