Bws

Mae teithio ar y bws yn gallu lleihau eich costau tanwydd a does dim rhaid chwilio am le parcio.

Un o’n blaenoriaethau yw gwneud teithio bws yn ddewis teithio gwirioneddol i bobl ledled Caerdydd ac rydym ni’n gweithio ar welliannau i’r rhwydwaith bysus i wneud amseroedd teithio’n fyrrach ac yn fwy dibynadwy.