Teithio ar fws ysgol

Teithio ar fysus ysgol

Mae disgyblion ysgol yn gymwys i deithio am ddim ar y bws dan rai amgylchiadau ac mae modd gweld gwybodaeth ar wefan y Cyngor. Mae modd i bobl 16-21 oed deithio ar y bws am bris gostyngol ledled Cymru gyda fyngherdynteithio. Rhagor o wybodaeth yma.

Teithio ar fysus addysg uwch

Mae modd cyrraedd safle pob coleg a phrifysgol yng Nghaerdydd ar y bws. Cynlluniwch eich taith ar myndibobmanfelmyfyriwr, Traveline Cymru neu lawrlwythwch yr app.

Mae modd i fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd brynu cerdyn Teithiwr Met Caerdydd i deithio ar y bysus Met i bob campws, lletyau myfyrwyr, neuaddau, archfarchnadoedd a chanol y ddinas, ac ar bob gwasanaeth Bws Caerdydd.