Cardiau teithio

Mae pob preswylydd hŷn na 60 oed a phobl anabl yn cael teithio ar wasanaethau bysus lleol ledled Cymru am ddim gyda cherdyn teithio dilys. Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni ymgeisio am gardiau bws ar gael yma.

Mae gan rai cwmnïau bysus gardiau neu apiau arbennig sy’n galluogi teithwyr i deithio ar y bws heb dalu ag arian mân bob amser.

Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth ar wefannau Bws Caerdydd a Stagecoach. Efallai y bydd rhai cwmnïau cludiant cyhoeddus hefyd yn cynnal gwasanaethau.

Os byddwch chi’n teithio i Gaerdydd ar y trên, bydd tocyn PLUS BUS yn eich galluogi i deithio i’r orsaf drenau ac oddi yno ac o gwmpas ardal drefol y dref gyfan ar ddechrau/ben eich taith.