Cod Ymddygiad

Rydym ni’n awyddus i sicrhau y gall pawb fwynhau llwybrau di-draffig a rennir.

Yn dilyn ymgynghoriad estynedig â cherddwyr a beicwyr, mae cod ymddygiad wedi’i ddatblygu i annog perthynas weithio da rhwng cerddwyr a beicwyr. Mae’r cod yn cydnabod bod gennym ni i gyd rôl i’w chwarae wrth wella sut rydym ni’n rhyngweithio ar y llwybrau ac mae hyn yn seiliedig ar rannu gofodau mewn modd parchus.

Mae gan y cod y negeseuon syml canlynol:

  • Cadwch i’r chwith
  • Beicwyr – canwch eich cloch
  • Beiciwch yn araf
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth