Diogelwch Beiciau

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu mannau parcio pwrpasol ar gyfer beics i chi glymu’ch beic – defnyddiwch y rhain os oes un ar gael. Mae’r Cyngor yn darparu mwy o fannau parcio beic ble bynnag y gall.

Mae beiciau’n cael eu dwyn ond gallwch chi ei gwneud hi’n anos i’r lleidr trwy ddilyn y cynghorion canlynol gan Heddlu De Cymru:

  • Cadwch eich beic dan glo bob amser
  • Prynwch glo sydd wedi cael profion ymosodiad.
  • Gwariwch tua 10% o werth eich beic ar eich clo.
  • Clowch eich beic wrth rac beiciau diogel
  • Clowch y ffrâm a’r olwynion wrth y rac beiciau
  • Gadewch y bwlch lleiaf posibl rhwng y beic a’r clo.
  • Cadwch y clo oddi wrth y llawr.
  • Caewch y clo fel bod mecanwaith y clo’n wynebu tua’r llawr.
  • Ewch â bagiau beic, goleuadau, sedd sy’n disodli’n hawdd a chyfrifiaduron beic.

 

Cadwch gofnod o Rif Model a Ffrâm eich beic a thynnwch luniau da ohono, ac yn arbennig lluniau agos o nodweddion neu rannau unigryw.

Ewch i www.soldsecure.com/search/; i chwilio am glo ardystiedig neu holwch yn eich siop feics leol am gyngor ar gloeau a chofrestrwch fanylion eich beic ar y gofrestr eiddo genedlaethol am ddim: www.immobilise.com.

Os digwydd y gwaethaf:

  • Cofnodwch unrhyw wybodaeth am drosedd feics trwy ffonio 101.
  • Os yw trosedd yn digwydd ar y pryd, ffoniwch 999.