Stondinau beic am ddim

I annog mwy o bobl i seiclo, mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu rhoi hyd at bedwar o stondinau seiclo a’u danfon am ddim i sefydliadau mewn lleoliadau lle mae angen lleoedd parcio beic – gweithleoedd, cyfleusterau hamdden neu amwynderau sydd ar agor i’r cyhoedd.

Bydd y sefydliadau llwyddiannus yn cael eu stondinau beic am ddim ond bydd rhaid iddyn nhw eu gosod eu hunain.

Cysylltwch â travelplans@cardiff.gov.uk i gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais.