Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Cycleway 1.2: Cathays Terrace to UHW
Beicffordd 1.2 – Teras Cathays i ysbyty athrofaol cymru
Beicffordd 1: Canol y Ddinas i Ogledd Caerdydd
Bydd Beicffordd 1 yn cynnig llwybr o ganol y ddinas i ogledd Caerdydd. Bydd cyrchfannau a wasanaethir gan Feicffordd 1 yn cynnwys:
- Canol y Ddinas
- Theatr y Sherman
- Gerddi Sophia
- Llyfrgell Cathays
- Canolfan Gymunedol Cathays
- Gorsaf Cathays
- Ysbyty Athrofaol Cymru
- Y Mynydd Bychan
Cwblhawyd rhan gyntaf y llwybr hwn yn 2019, gan greu trac beicio ar St Andrew’s Place a Senghennydd Road.
Beicffordd 1.2: Teras Cathays i Ysbyty Athrofaol Cymru
Bydd ail gam Beicffordd 1 yn gwella cyfleusterau beicio drwy Cathays Terrace, rhan o Whitchurch Road, Allensbank Road a King George V Drive.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 19 Mehefin 2020 a 31 Gorffennaf 2020.
Mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud gwaith priffyrdd ar Teras Cathays dros y 6 mis nesaf. Bydd gwaith uwchraddio a dargyfeirio yn cael ei ddilyn gan waith i ailddatblygu Teras Cathays, fydd yn cynnwys y cynllun Beicffordd 1. yr ymgynghorwyd arno’n flaenorol. Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ar 13 Medi 2021 a bydd yn dod i ben (ar Teras Cathays) yng ngwanwyn 2022.
Parthau Parcio
Bydd gwaith yn cael ei wneud yr wythnos hon (20/06/2022) i osod parthau parcio, arwyddion a marciau ffordd newydd yn y lleoliadau canlynol:
- Pentyrch Street
- Maindy Road
- Inglefield Avenue
- Soberton Avenue
Tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud, bydd angen i ni gyfyngu ar barcio yn yr ardal hon.
- Gofynnwn i bob preswylydd symud ei gar lle bo hynny’n bosibl
- Bydd mynediad i gerddwyr i bob safle yn cael ei gynnal bob amser.
- Byddwn yn cyfyngu ar fynediad i bobl nad ydynt yn drigolion.
- Bydd preswylwyr yn cael mynd a dod.
Ymddiheurwn o flaen llaw am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.
Os oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau ynghylch yr uchod, mae croeso i chi gysylltu â’n Goruchwyliwr Gweithrediadau Colin Stansbury ar 07394057385.