Gwybodaeth

Dougie

Mae Dougie yn 8 oed ac yn byw gyda’i fam a’i dad yng Nghaerdydd ac yn teithio i Ysgol Gynradd Danescourt ar ei feic bob dydd.

Dechreuodd hyn pan ddechreuodd Dougie fynychu Ysgol Gynradd Danescourt, ac roedd yn siwrne hir yn y car i gyrraedd yr ysgol. Sylweddolodd ei fam, Christine, y gallent fynd ar lwybr gwahanol oddi ar y ffordd a cherdded i’r ysgol a allai fod yn gyflymach. Dechreuon nhw gerdded ar y llwybr yn rheolaidd, ac yna dechrau beicio wrth i Dougie fynd yn hŷn, a gallai Christine wedyn fynd yn ei blaen i’r gwaith ar ôl ei ollwng yn yr ysgol. Dywedodd Christine wrthym

“Dyw gyrru ddim yn ddibynadwy, bydden i’n aml mewn traffig ac yn gorfod ffonio pobl munud olaf i ofyn a allent gasglu Dougie o’r clwb ar ôl ysgol. Mae beicio’n llawer mwy dibynadwy, ac yn fwy cywir o ran amseroedd. Rydyn ni’n gwybod i’r funud y pryd mae’n rhaid i ni adael y cartref i fod yn yr ysgol ar amser, ond gallwn fod yn fwy hamddenol ar ein ffordd adref.  Mae bellach yn rhan o’n cyfundrefn ffitrwydd dyddiol, i’r teulu cyfan”

I Dougie, mae ei hoffter o feicio yn amlwg:

“Roedden ni’n arfer cerdded, ond nawr rydyn ni’n beicio ar ffordd fwy diogel drwy Barc Hailey. Mae ceir yn ddiflas iawn. Byddai’n fwy diogel pe na bai ceir yn cael gyrru i mewn i ddinasoedd, dylen nhw i gyd barcio y tu allan!”

Oherwydd ei siwrne ddyddiol, mae Dougie wedi archwilio’r byd naturiol o’i amgylch.

“Mae’n braf oherwydd eich bod yn gweld llawer o anifeiliaid a phethau fel ystlumod. Un diwrnod, gwnaethom achub aderyn. Syrthiodd allan o’i nyth, roedd wedi brifo ei adain, felly aethom ag e adref a gwneud bocs bach ar ei gyfer yn fy nhŷ bach y tu allan. Y diwrnod wedyn roedd wedi hedfan i ffwrdd!”

Mae ochr gymdeithasol beicio yn amlwg o fudd i’r teulu hefyd, fel y gallwch ddychmygu, mae’n siŵr. Soniodd Christine “Mae Dougie yn treulio gormod o amser ar Minecraft gartref, ond pan fyddwn yn beicio, ein sgwrs ni yw ein hamser i ddal lan, sgwrsio am wyddoniaeth, ac yn aml dyma ein hoff ran o’r dydd, yn enwedig ar y ffordd adref pan nad oedd angen brysio gymaint”.

Mae tad Dougie, Duncan, yn gobeithio y bydd y siwrne feicio ddyddiol i Dougie yn “rhywbeth a fydd yn parhau yn ei fywyd fel oedolyn”.