Gwersi Diogelwch ar y Ffyrdd

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd yn cynnig ystod eang o fentrau i ysgolion. Dyma rai y gall ysgolion gymryd rhan ynddynt.

Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol

Mae amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant beicio ar gael i ysgolion yng Nghaerdydd. Cynigir Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i holl ysgolion cynradd Caerdydd. Mae cyrsiau gwyliau Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol hefyd ar gael i ddisgyblion Caerdydd yn ogystal â chyrsiau hyfforddi am ddim i oedolion i unrhyw un sy’n byw, gweithio neu astudio yng Nghaerdydd.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.diogelwchyffyrdd.caerdydd.gov.uk.

Sgwteri

Sgwteri

Mae’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn cynnig rhaglen Sgwtio i’r Ysgol ar gyfer ysgolion cynradd i annog disgyblion i feicio i’r ysgol a darparu hyfforddiant ymarferol i ysgolion. Caiff ysgolion eu targedu drwy ganlyniadau’r Arolwg Dwylo Lan – lle mae canran uchel o ddisgyblion a fyddai wrth eu bodd yn sgwtio i’r ysgol, ond sy’n teithio drwy ddulliau eraill ar hyn o bryd.

Saff ar y Stryd

 Nod y fenter Saff ar y Stryd yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd er mwyn sicrhau bod gan blant y sgiliau sydd eu hangen i deithio’n ddiogel i’w hysgol uwchradd yn ogystal ag annog annibyniaeth a theithio llesol.  Darperir hyfforddiant i ddisgyblion blwyddyn 6 ledled Caerdydd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu wneud cais am y cynllun i’ch ysgol chi, cliciwch yma.

Mae gennym hefyd gynlluniau gwers ac adnoddau yn seiliedig ar y cynllun hwn. Cliciwch yma os hoffech eu gweld.

Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd Iau

Mae gan Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd Iau (SDFfIau) rôl bwysig iawn mewn ysgolion cynradd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd a hyrwyddo materion diogelwch ar y ffyrdd i bawb yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.

Ymhlith y tasgau y mae’r SDFfIau yn cymryd rhan ynddynt mae:

  • Cynnal gwasanaethau diogelwch ar y ffyrdd a sgyrsiau dosbarth i addysgu’r ysgol am bynciau diogelwch ar y ffyrdd.
  • Cynnal hysbysfwrdd SDFfI i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
  • Cynnal cystadlaethau yn yr ysgol i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
  • Helpu i drefnu gweithgareddau teithio diogel a llesol.
  • Helpu i gyflawni cynllun teithio’r ysgol.
  • Gweithio gyda thîm parcio’r cyngor i addysgu rhieni a gwarcheidwaid am barcio diogel y tu allan i’w hysgol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu wneud cais am y cynllun i’ch ysgol chi, cliciwch yma

Kerbcraft

Mae Kerbcraft yn dysgu plant ym mlwyddyn 2 sut i fod yn gerddwyr mwy diogel drwy fynd â nhw ar ffyrdd a dangos iddyn nhw sut i wneud y penderfyniadau cywir i gadw’n ddiogel. Mae hefyd yn cyfrannu at agwedd ddiogelwch y Cynllun Ysgolion Iach – gall chwarae rhan allweddol yn hybu iechyd a diogelwch gwell i blant. Mae Kerbcraft yn strategaeth genedlaethol ar gyfer diogelwch cerddwyr ifanc a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwirfoddolwyr hyfforddedig a Swyddogion Cymorth Kerbcraft Cyngor Caerdydd yn mynd â phlant allan o’r ysgol mewn grwpiau bach i ddysgu tair prif sgil:

  1. Dewis Mannau Diogel a Llwybrau i Groesi’r Ffordd
    Mae’r plant yn cael cymorth i adnabod peryglon a dod o hyd i fannau croesi amgen.
  2. Croesi’n Ddiogel wrth Geir sydd wedi’u Parcio
    Mae plant dysgu i ddefnyddio strategaeth ddiogel ar gyfer croesi ger ceir sydd wedi’u parcio – pan mae’n amhosibl eu hosgoi.
  3. Croesi’n Ddiogel ger Cyffyrdd
    Cyflwynir plant i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth, a dysgir strategaeth iddynt ar gyfer edrych yn systematig i bob cyfeiriad.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu wneud cais am y cynllun i’ch ysgol chi, cliciwch yma 

Hyfforddiant Teithio Annibynnol

Nod y Cynllun Hyfforddi Teithio Annibynnol (CHTA) yw rhoi’r sgiliau a’r hyder allweddol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) deithio o amgylch y ddinas yn annibynnol, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant un-i-un am ddim i annog disgyblion ADY i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ac o’r ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Living Streets WOW

Gweld Project

Dolenni i Sefydliadau rydyn ni’n gweithio â hwy

Gweld Project