All Projects

Beicffordd 5.3

Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynigion ar gyfer pum Beicffordd fel esiampl ar gyfer beicio i bob oed a gallu, er mwyn cysylltu cymunedau â chyrchfannau mawr ledled y ddinas, gan gynnwys canol y ddinas a Bae Caerdydd. Bydd Beicffyrdd yn darparu llwybrau parhaus y gellir eu defnyddio’n gyfforddus ac yn reddfol, wedi’u gwahanu oddi wrth gerbydau modur a cherddwyr lle bo angen.

 

Beicffordd 5.3 Rhodfa Lawrenny:

Bydd y Beicffordd 5 newydd arfaethedig yn creu cysylltiad o ganol y ddinas tua’r gorllewin a bydd ei lwybr ar hyd Rhodfa Lawrenny o fudd i ddisgyblion a staff Fitzalan, a rhai Ysgol Pwll Coch. Mae adran Rhodfa Lawrenny wedi’i blaenoriaethu i sicrhau y bydd ar waith pan fydd yr ysgol newydd yn agor gyda chroesfannau gwell i gerddwyr a beicwyr. Yn ogystal, bydd llwybr dros dro yn darparu’r cysylltiad ymlaen i ganol y ddinas.

 

Sut i ymateb

Ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio’r ffurflen arolwg hon: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=162876879162

Bydd hyn yn eich galluogi i wneud sylwadau ffurfiol mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Defnyddir yr ymatebion i helpu i ysgrifennu’r adroddiad ymgynghori ac maent yn un o’r dulliau a ddefnyddir i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer y cynllun.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 24/09/21

Os oes angen gwybodaeth ychwanegol nad yw wedi’i hateb yn y pecyn hwn, anfonwch e-bost i: polisitrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk