Dŵr
Mae Morglawdd Bae Caerdydd wedi creu lleoliad gwaith a hamdden atyniadol, ac mae ei gysylltiad ag Afon Taf ac Afon Elái yn ffordd arall o deithio yng Nghaerdydd.
Cynhelir tri gwasanaeth yng Nghaerdydd. Pob un yn cynnal gwasanaeth rheolaidd o Gei’r Fôr-forwyn. Mae gwasanaethau dŵr yn cynnwys:
Aquabus Caerdydd
Mae Aquabus Caerdydd yn cynllunio gwasanaethau rhwng Cei’r Fôr-Forwyn a Chanol y Ddinas 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r cyntaf yn gadael Cei’r Fôr-Forwyn am 10.30am ac mae un bob hanner awr ar ôl hynny tan 4.30pm.
Mae gwasanaethau’n gadael canol y ddinas (Tiroedd y Castell) ar yr awr. Mae’r cyntaf yn gadael am 11.00 ac mae’r olaf yn gadael am 5pm.
Gall gwasanaethau newid yn ôl lefelau a llif afonydd a’r tywydd.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau a llwybrau gweler: www.aquabus.co.uk info@aquabus.co.uk Ff (0)29 2034 5163 neu 07500 556556
Bws Dŵr Caerdydd
Mae Bws Dŵr Caerdydd yn teithio rhwng Cei’r Fôr-Forwyn ac ochr Penarth y morglawdd yn unig.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau, llwybrau a chostau gweler: www.cardiffwaterbus.com Ff 07940 142409 Cardiff.waterbus@ntlworld.com
Cwch Caerdydd Mae bws dŵr Cwch Caerdydd yn cynnig gwasanaeth rheolaidd rhwng Bae Caerdydd a Chanol Dinas Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn gadael Bae Caerdydd ar yr awr a hanner wedi’r awr o Barc Bute. Mae’r gwasanaeth cyntaf am 10am o Fae Caerdydd ac mae’r olaf am 4.30pm o Barc Bute. Mae un daith o Fae Caerdydd i Benarth am 17:00.
Gweler rhagor o fanylion a’r diweddaraf am y gwasanaeth yn rheolaidd ar www.cardiffboat.com