Pwyntiau gwefru newydd i gerbydau electronig
Cyhoeddwyd ar 16.07.2019

Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod ei bwyntiau gwefru cerbydau trydanol cyntaf mewn 10 lleoliad yn wardiau Penylan, Glan-yr-Afon a Threganna. Gellir gweld y pwyntiau sydd eisoes yn weithredol yn: ZapMap

SWARCO eConnect sy’n cynnig y gwasanaeth hwn ac mae’n cynnig pwyntiau gwefru 7kw a all wefru cerbyd trydanol yn llawn o fewn tua 4-6 awr. I sicrhau bod y trosiant yn dda yn y mannau hyn, bydd cyfyngiad aros o 5 awr a rhaid cysylltu’r cerbydau â’r pwynt gwefru tra maent wedi parcio yno.  

Byddai angen i yrwyr gofrestru yn swarcoeconnect.org neu drwy ap Swarco E-Connect (sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac OSX), yna gellir talu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Mae cynlluniau i ddod â rhagor o bwyntiau gwefru trwy’r ddinas. I’n helpu i ganolbwyntio pwyntiau gwefru a gyflwynir yn y dyfodol yn y llefydd lle mae eu hangen fwyaf gan breswylwyr, gallwch awgrymu lleoliadau newydd trwy gysylltu â: GwefruCT@caerdydd.gov.uk.

  • Nad ydynt yn uniongyrchol y tu allan i eiddo preswylwyr
  • Lle mae’r palmant yn llydan;
  • Lle mae digon o leoedd parcio cyhoeddus ar gael; ac
  • Sydd ar strydoedd lle nad oes tramwyfeydd, garejys preifat na mannau Parcio preifat eraill. (Gall unigolion ymgeisio am arian grant eu hunain gan OLEV i’w cynorthwyo i osos pwyntiau gwefru yn eu heiddo.

Yna byddwn yn adolygu’r lleoliadau a awgrymwyd ac yn ymgynghori â’r darparwr ynni lleol (Western Power Distribution).

cynllun ehangach:

Mae gan y Cyngor gynlluniau i ddod â phwyntiau gwefru cerbydau trydanol trwy’r ddinas i roi’r gallu i breswylwyr yrru a gwefru eu cerbydau trydanol yn y ddinas. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun cyflwyno a rhown rhagor o wybodaeth yn y dyfodol agos.

fflyd y cyngor

Mae’r Cyngor yn cymryd y camau cyntaf i newid cyfran o’r fflyd cerbydau am gerbydau trydanol. Mae’r cam cyntaf yn canolbwyntio ar newid ceir bychain a faniau dros y blynyddoedd nesaf.

nodyn canllaw i ddatblygwyr

Mae’r Cyngor wedi nodi math a nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydanol y mae’n eu disgwyl mewn datblygiadau newydd trwy’r ddinas.

rhagor o wybodaeth

Mae’r pwyntiau gwefru cerbydau trydanol ar y stryd:

  • yn asedau i’r Cyngor a chânt eu gosod ar y briffordd fabwysiedig;
  • yn ‘ddatblygiadau a ganiateir’ oherwydd mai’r Awdurdod Lleol sy’n eu darparu;
  • dan reolaeth gorchmynion cyfreithiol fel mannau parcio penodol ar gyfer cerbydau trydanol i yrwyr cerbydau trydanol gael cyfle i wefru eu cerbydau ger eu cartrefi;
  • mewn ardaloedd preswyl ond nid mewn cilfachau parciau preswyl neu yn uniongyrchol y tu allan i eiddo preswyl;
  • wedi eu gosod lle na byddant yn rhwystro mynediad ar gyfer defnyddwyr y palmant;
  • draw oddi wrth isadeiledd arall ar y palmant.