Gwybodaeth

Ysgol Uwchradd Fitzalan

Ysgrifennu cynllun teithio llesol ar gyfer un o Ysgolion yr 21ain Ganrif – Ysgol Uwchradd Fitzalan

Mae cynllunio a datblygu ysgol newydd sbon yn gyfle cyffrous.  I rai ysgolion mae’n golygu cael adeiladau ysgol newydd ar eu safle presennol ac i bobl eraill gall olygu symud i safle newydd.   Yn y naill achos neu’r llall mae’n gyfle i adolygu sut mae disgyblion, rhieni a staff yn teithio i’r ysgol ac i ystyried sut y gall cymuned ysgol leihau ei heffaith ar yr amgylchedd a gwella iechyd a lles disgyblion a staff.

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi croesawu’r cyfle i hyrwyddo a galluogi teithio llesol a chynaliadwy i’w hysgol newydd.   Gyda’r disgwyl iddi agor yn 2023, bydd yr ysgol newydd ar safle yn agos i’w hysgol bresennol ar Rodfa Lawrenny.   Gyda chymorth y tîm Teithio Llesol Ysgolion, mae’r ysgol eisoes wedi ysgrifennu ei chynllun teithio llesol ar gyfer yr ysgol newydd yn ogystal â chael cynllun teithio llesol ar gyfer eu hysgol bresennol.

Dywedodd Cath Morris, y Pennaeth Cynorthwyol wrthym pa mor bwysig yw annog teithio llesol i’r ysgol.

‘Mae gwneud ein teithiau dyddiol i’r ysgol drwy gerdded neu feicio nid yn unig yn hybu ein hiechyd corfforol a meddyliol ond mae hefyd yn helpu i wneud ein hamgylchedd lleol yn fwy diogel a glanach’

Dywedodd Cath wrthym sut mae gwneud cynllun teithio llesol wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o sut mae disgyblion, staff a rhieni yn teithio i’r ysgol ac eisoes mae wedi helpu i weithredu newid

‘Drwy godi ymwybyddiaeth o gerdded a beicio drwy heriau fel ‘Y Pedal Mawr’ rydym wedi gweld rhai newidiadau cadarnhaol yn arferion teithio staff a disgyblion’

Mae gweithio gyda’r tîm Teithio Llesol Ysgolion wedi galluogi’r ysgol i archwilio’r rhwystrau y mae eu staff a’u disgyblion yn eu hwynebu wrth deithio i’r ysgol.   Mae hyn wedi golygu eu bod wedi gallu gosod camau realistig a pherthnasol i gefnogi rhieni, disgyblion a staff.  

‘Bydd ein cynllun teithio llesol yn cefnogi’r ysgol i annog a hyrwyddo newid.  Ein dyhead yw sicrhau gostyngiad yn y defnydd o geir lle y bo’n bosibl a chynyddu nifer y disgyblion a’r staff sy’n teithio’n llesol ac yn gynaliadwy.

Gan fabwysiadu dull cymunedol ysgol gyfan, mae Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi nodi camau gweithredu yn eu cynllun teithio sy’n canolbwyntio ar newid y diwylliant o ran teithio i’r ysgol a chefnogi disgyblion, staff a rhieni i wneud newid.  Gweler isod am enghreifftiau o’u cynllun:

  • Diwylliant – bydd gan yr ysgol Lywodraethwr Teithio Llesol i hyrwyddo teithio llesol ac mae wedi cynnwys eu Cynllun Teithio Llesol yn y Cynllun Gwella Ysgol
  • Gall disgyblion gael hyfforddiant beicio a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a bydd yr ysgol yn sefydlu clwb beicio yn yr ysgol. 
  • Datblygu Adduned Teithio Llesol gan ddisgyblion/rhieni sy’n gofyn i rieni gefnogi eu plant i deithio’n llesol ac yn gynaliadwy i’r ysgol.
  • Cynnal diwrnodau hyfforddi beicio i’r staff a’u hannog i ymuno â chynllun Nextbike

Yn ogystal â’r uchod, mae’r ysgol wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Sustrans Cymru a Beicio Cymru.  Mae hyn wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â thagfeydd traffig a pharcio gwael yn ystod y daith i’r ysgol.  Gan weithio gyda’r Cyngor a phartneriaid, mae’r ysgol wedi sicrhau fflyd feiciau newydd a fydd yn cefnogi clwb beicio a hyfforddiant beicio.  

Mae’r ysgol wedi dechrau’n gadarnhaol iawn ar eu taith teithio llesol.   Mae eu cynllun teithio llesol yn helpu i lywio eu gweithredoedd, dechrau trafodaeth a sicrhau bod cymuned yr ysgol gyfan yn cymryd cam tuag at daith ysgol fwy cynaliadwy a llesol.    Os hoffech chi gymryd eich cam cyntaf tuag at ddod yn Ysgol Teithio Llesol yna cysylltwch â ni yn cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk

The school has made a very positive start on their active travel journey.  Their active travel plan is helping to guide their actions, start a discussion and ensure that the whole school community is taking a step towards a more sustainable and active school journey.   If you would like to your first step towards becoming an Active Travel School then please get contact us at travelplans@cardiff.gov.uk