Gwybodaeth

Ysgol Gynradd Howardian

Mae Ysgol Gynradd Howardian yn enghraifft wych o ysgol a newidiodd sut roedd teuluoedd yn teithio i’r ysgol. O fewn blwyddyn gostyngodd eu defnydd o geir dros 11%, o 42.1% a oedd fel arfer yn gyrru i’r ysgol yn 2018/19 i 30.8% a oedd fel arfer yn gyrru.  

Dywedodd Lucy Britton o Ysgol Gynradd Howardian wrthym sut maent wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’r ffordd y mae teuluoedd yn teithio i’w hysgol, gyda chymorth y Tîm Teithio Llesol Ysgolion. Maent wedi ysgrifennu cynllun teithio llesol gyda ni ac wedi gweithredu llawer o newidiadau.

“Cyn i’r newidiadau gael eu gwneud, roedd llawer o dagfeydd wrth gatiau’r ysgol yn ystod yr adegau casglu a gollwng, a llawer o ymddygiad parcio gwael, megis o flaen dreifiau, ar balmentydd a throi’n amhriodol. Roeddem yn poeni’n fawr am ddiogelwch ein plant a’n teuluoedd”.

Dywedodd Lucy wrthym sut y gwnaeth Howardian newidiadau gydag arweiniad gennym ni a Sustrans yr oeddent hefyd yn gweithio gyda nhw.

“Roedd rhai rhieni’n gyrru i mewn i dir yr ysgol, felly yn gyntaf fe wnaethom sicrhau bod y rheiny ar gau ar adegau gollwng a chasglu. Roedd hyn yn rhoi amgylchedd di-gar i blant a newidiodd yr awyrgylch yn llwyr. Fe wnaethom hefyd greu Polisi Trafnidiaeth Gynaliadwy a’i rannu gyda rhieni, ac roedd hyn yn golygu eu bod yn gwybod beth oedd ein gweledigaeth ar gyfer newidiadau. Rydym yn gweithio tuag at sefydlu lleoliad parcio a cherdded gydag archfarchnad leol.”

Edrychodd Lucy a thîm yr ysgol hefyd ar ba fathau o drafnidiaeth oedd yn cael eu defnyddio.

“Mae sgwtio wedi bod yn boblogaidd iawn yn ein hysgol  felly rhoddodd Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd sgwter i blant i wneud yn siŵr eu bod yn sgwtio’n ddiogel. Mae hynny a hyfforddiant beicio gan y tîm diogelwch ar y ffyrdd wedi gwella eu hyder yn fawr.  Mae Cyngor Caerdydd wedi ariannu safleoedd parcio i feiciau a sgwteri a ddefnyddir bob dydd gan ein teuluoedd ac wedi sicrhau bod yr offer yn cael ei storio’n ddiogel.”

Dywedodd Lucy wrthym hefyd fod Howardian wedi creu partneriaeth gyda Sustrans ar gyfer eu rhaglen Teithiau Llesol. 

“Fe wnaeth y plant gymryd rhan mewn Sesiynau Doctor Beic, a chystadlaethau rhoi ‘bling’ ar eich beic/sgwter.  Cefnogodd Sustrans ni i ennill Ysgol Arian

Gan weithio gyda Sustrans rydym yn cynnal sesiynau Doctor Beic yn rheolaidd, cystadleuaeth rhoi bling ar y beic/sgwter ac yn cymryd rhan yn y Pedal Mawr a’r Shifft Mawr.  Mae Sustrans wedi ein helpu yn yr ysgol i weithio at ein gwobr Nod Ysgol Arian Sustrans.  Mae’r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy. Mae’r plant mor falch o’r fenter hon, ac mae hyd yn oed wedi cael ei chrybwyll yn ein Hadroddiad Estyn. Mae’r Criw Teithiau Llesol wedi cynnal gwasanaethau i’r ysgol gyfan godi proffil beicio.”

Soniodd Lucy am sut mae rhieni wedi ystyried y newidiadau a sut mae wedi effeithio ar ddisgyblion.

“Mae rhieni wedi bod yn gefnogol iawn o’r mentrau. Cawsom ymateb mor gadarnhaol i ddigwyddiadau fel y Pedal Mawr a’r Shifft Mawr. Mae annog teithio llesol yn fuddiol i iechyd a lles ein disgyblion ac mae’n eu gwneud yn fwy annibynnol.”

Mae Lucy yn argymell bod ein tîm yn mynd i ysgolion sy’n ceisio gwneud newidiadau

“Cysylltwch â Thîm Teithio Llesol Cyngor Caerdydd – maen nhw wedi bod o gymorth mawr gan roi llawer o gyfleoedd gwahanol i’r disgyblion.”

Anfonwch e-bost atom ar: cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk