Rwy’n Fyfyriwr
Mae gwybod sut mae teithio yn eich dinas yn ddiogel ac yn hyderus, a gwybod faint yw ei bris, yn hawdd pan rydych chi’n gwybod lle i edrych. Mae apiau ac offer eraill yn gallu eich helpu i gynllunio ymlaen llaw. Bydd y cynghorion isod hefyd yn eich helpu.
Cerdded
- Gadewch yn ddigon cynnar.
- Pennwch eich llwybr – gyda’ch ffôn neu eich cyfrifiadur, neu gyda Map Cerdded a Beicio Caerdydd.
Beicio
- Prynwch neu llogwch feic.
- Trefnwch hyfforddiant beicio AM DDIM yma.
- Defnyddiwch y Map Cerdded a Beicio i gynllunio’ch llwybr.
- Defnyddiwch glo da a chlowch eich beic mewn rhywle diogel – Cloeon D sydd orau.
Bws
- Cofiwch na allwch chi ddefnyddio tocyn gan un cwmni ar wasanaeth cwmni arall, felly chwiliwch ar Traveline Cymru i gael gwybod pa gwmni bws sy’n cynnig gwasanaeth i le rydych chi am fynd.
- Os ydych chi’n 18 oed neu iau, gallwch chi hefyd dalu llai gyda fyngherdynteithio [insert link to Welsh] a gallwch chi ddefnyddio cerdyn neu ap Iff er mwyn osgoi cario arian mân.
- Mae modd cyrraedd pob safle prifysgol yng Nghaerdydd ar y bws. Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru neu lawrlwythwch yr ap.
- Mae rhagor o wybodaeth am gerdyn Metwibiwr yma.
Trên
- Os ydych chi’n 15 oed neu’n iau, gallwch chi dalu llai. Mae pobl hŷn na 15 oed yn gallu cael cerdyn rheilffordd i berson ifanc.
- Gallwch chi fynd â’ch beic ar y trên, ond efallai y bydd yn rhaid cadw lle yn gyntaf (yn rhad ac am ddim).
- Os yw eich taith yn dechrau’r tu allan i Gaerdydd, gallwch chi hefyd ychwanegu teithiau bws at eich tocyn rheilffordd os bydd angen hynny arnoch chi.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall: