Rwy’n Anabl
Mae’n rhaid cynllunio’n dda cyn mynd allan os oes gennych chi anabledd.
Dylai’r wybodaeth ar y dudalen hon eich helpu i gael gwybod yr hyn sydd ar gael i’w gwneud mor hawdd â phosibl.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am deithio hygyrch ar fysus a threnau yma.
Deiliaid Bathodyn Glas
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu mannau ar gyfer deiliaid bathodyn glas ac mae hefyd yn caniatáu i chi barcio am ddim mewn mannau Talu ac Arddangos os ydych chi’n arddangos eich bathodyn glas. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am Fathodyn Glas ac am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau gyda bathodyn glas yma.
Dod o hyd i fan parcio
Mae gan App Parcio Caerdydd hidlwr sy’n dangos lle y mae mannau Bathodyn Glas ar gael yng nghanol y ddinas.
Dyw’r App ddim yn gallu cadw lle i chi ond bydd yn dangos i chi sawl lle sydd ar gael ym mhob lleoliad ac mae modd ei ddefnyddio i gynllunio ble sydd fwyaf cyfleus i barcio.
Lleoedd parcio i bobl anabl
Os ydych chi’n bodloni meini prawf penodol, gallwch chi wneud cais am fan parcio i berson anabl ar bwys eich cartref.
Os oes gennych chi barcio oddi ar y stryd yn eich cartref, mae’n annhebygol y byddwch chi’n gymwys i gael man parcio i berson anabl.
Dyw’r Cyngor ddim bob amser yn gallu pennu man parcio y tu allan i’ch cartref, ac ni fydd yn pennu un y tu allan i gartref rhywun arall at eich defnydd chi, ond bydd bob amser yn ceisio ei bennu mor agos â phosibl at eich cartref.
Mae modd i chi weld rhagor am y polisïau yma.