Map yn dangos Cyfyngiadau 20 MYA yn cael ei gyhoeddi
Cyhoeddwyd ar 06.03.2017

Mae map yn dangos y cyfyngiadau amser 20 MYA a fydd yn cael eu gweithredu dros y tair blynedd nesaf wedi’i gyhoeddi. 

Mae gan Gyngor Dinas Caerdydd weledigaeth i gael cyfyngiadau 20 MYA mewn ardaloedd preswyl yng Nglan-yr-afon, Treganna, Gabalfa, Grangetown, Plasnewydd, Adamsdown, Pen-y-lan, Sblot, Butetown ac i ddiweddaru’r cynllun yn Cathays.

Dywedodd y Cynghorydd Ramesh Patel, Aelod Cabinet dros Gynllunio, Trafnidiaeth a Chynaliadwyedd, “Bydd y cynllun hwn yn dod â llawer o fuddion megis gwella diogelwch y cyhoedd, gwella pa mor hawdd yw byw ar ein strydoedd, gwneud hi’n llai atyniadol i yrwyr ddefnyddio strydoedd preswyl fel teithiau byr ynghyd ag annog cerdded a beicio.

“Rydym wedi creu cynllun ar ôl dysgu gan gynghorau eraill yn y DU. Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni yn raddol o ganol y ddinas allan, gan sicrhau bod y cynlluniau newydd a fydd yn cael eu gweithredu yn union gyferbyn â’r ardaloedd sydd eisoes gyda chyfyngiadau 20MYA. Bydd hyn yn cynnig cysondeb i yrwyr a beicwyr a theithwyr sy’n defnyddio’r ardaloedd hyn. Rydym yn bwriadu sicrhau y bydd prif lwybrau’r wardiau hyn yn parhau yn 30MYA, gyda chyflymderau mewn ardaloedd preswyl yn lleihau i 20MYA.

“Mae’r Cyngor wedi cysylltu â Heddlu De Cymru ar y cynllun hwn i sicrhau bod ganddyn nhw’r holl wybodaeth wrth i ni fwrw ymlaen. Bydd cynghorwyr lleol a phreswylwyr yn cael gwybod holl fanylion y cynlluniau yn y wardiau hyn cyn i ni weithredu’r cynllun yn yr holl ardal.

“Gwnaethom ymgynghori ar y cynllun hwn drwy Arolwg Holi Caerdydd dros y tair blynedd diwethaf ac yn ddiweddar, roedd 71.2% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cyfyngiadau 20MYA.

“Mae poblogaeth Caerdydd yn dal i dyfu, ac felly mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y twf hwn drwy annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref ac ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded. Dim ond un rhan o’n strategaeth gyffredinol yw’r cynllun hwn i gyflawni’r nod. Mae’n rhaid i ni greu ffyrdd teithio amgen yn fwy deniadol ac yn hygyrch, a dyma beth rydyn ni’n ei wneud.”