Parcio a theithio
Parcio a theithio i’r ysbyty
Mae Bwrdd GIG Caerdydd a’r Fro yn darparu gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim yn Nwyrain Caerdydd sy’n rhedeg i Ysbyty Athrofaol Cymru ac oddi yno.
Mae’r maes parcio ar gael ar gyfer rhannu car a’r cyfeirnod sat nav yw CF23 8HH.
Dim ond ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr sy’n mynychu’r ysbyty y mae’r gwasanaeth yma ar gael.
Nid oes cyfyngiadau uchder cerbydau ar y safle.
Mae gan y safle deledu cylch cyfyng ond mae cerbydau wedi parcio mewn perygl y perchennog.
Sut i gyrraedd
O’r Dwyrain:
- dod oddi ar gyffordd 29 yr M4
- cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan
- dilynwch yr arwyddion ar gyfer maes parcio Parcio a Theithio.
O’r Gorllewin:
- dod oddi ar gyffordd 30 yr M4
- Cymerwch y drydedd allanfa ar y gylchfan gyntaf
- cymerwch yr ail allanfa ar yr ail gylchfan.
- cymerwch yr ail allanfa ar y trydydd cylchfan, ar yr A48 sy’n mynd tuag at ganol y ddinas.
- i gymryd yr allanfa gyntaf ar yr A48 a dilyn arwyddion i’r maes parcio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.