Rhwydwaith Ysgolion Iach Caerdydd
Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru – Tîm Ysgolion Iach Caerdydd
Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd o Wasanaeth Addysg Caerdydd yn cefnogi holl ysgolion yr Awdurdod Lleol i gyflawni dull gweithredu ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd a lles. Ceir saith pwnc iechyd allweddol:
- Bwyd a Ffitrwydd (gan gynnwys agweddau fel darpariaeth bwyd a diod, bwyta’n iach a choginio ymarferol, hydradu, addysg gorfforol a chwarae actif)
- Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol (gan gynnwys agweddau fel asesiadau lles disgyblion, darpariaeth gyffredinol a thargedig, lles staff, a gwrth-fwlio)
- Datblygiad Personol a Pherthnasoedd (gan gynnwys Addysg Rhyw a Pherthnasoedd)
- Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau (gan gynnwys agweddau fel meddyginiaethau, ysmygu, alcohol a chyffuriau)
- Amgylchedd (cysylltu â’r rhaglen Eco-Sgolion, Masnach Deg ac amgylchedd yr ysgol)
- Diogelwch (gan gynnwys agweddau fel diogelu, e-ddiogelwch, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y ffyrdd)
- Hylendid (gan gynnwys agweddau fel rheoli haint, hylendid y geg, golchi dwylo, hylendid toiledau, hylendid bwyd)
Er mwyn datblygu a sefydlu agwedd ysgol gyfan tuag at bob pwnc iechyd, eir i’r afael â’r agweddau canlynol:
- Arweinyddiaeth a Chyfathrebu – Polisi a gweithdrefnau, hyfforddi staff, cysylltu â mentrau lleol a chenedlaethol
- Cwricwlwm – Sicrhau bod adnoddau perthnasol yn cael eu defnyddio a’u cysylltu â’r cwricwlwm newydd i Gymru, ynghyd â darpariaeth y tu allan i oriau
- Ethos ac Amgylchedd – Cynnwys llais a chyfranogiad y disgybl, cyfranogiad y staff ac amgylchedd sy’n cefnogi iechyd a lles
- Cynnwys Teuluoedd a’r Gymuned – cynnwys rhieni/gofalwyr/teuluoedd a llywodraethwyr, gan gysylltu â sefydliadau partner lleol
Mae gan bob ysgol yng Nghaerdydd Swyddog Ysgolion Iach dynodedig, sy’n cefnogi’n uniongyrchol gydlynwyr ym mhob ysgol i fynd ati i hyrwyddo ac ymgorffori’r pynciau allweddol hyn yng nghymuned yr ysgol. Mae ysgolion yn symud ymlaen drwy’r cynllun drwy greu cynlluniau gweithredu a chwblhau achrediadau ar ddiwedd pob cam. Yna, mae ysgolion yn parhau â’u dilyniant drwy gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG). Mae’r GAG yn wobr fawreddog a asesir yn annibynnol, sy’n dathlu ymrwymiad ysgol i iechyd a lles ei disgyblion, ei staff a chymuned yr ysgol gyfan.
Sut mae’r Tîm Ysgolion Iach yn cefnogi ysgolion?
- Ymweliadau cymorth ag ysgolion er mwyn gweithredu cynllun yn ymwneud â’r 7 pwnc iechyd allweddol
- Cwblhau achrediadau camau lleol, lle mae ysgolion yn ennill plac cydnabyddiaeth.
- Gweithio gydag asiantaethau partner a chyfeirio ysgolion i gymorth perthnasol
- Darparu a hwyluso hyfforddiant staff ar amrywiaeth o bynciau iechyd.
- Datblygu adnoddau a phecynnau cymorth i helpu i gyflawni’r cwricwlwm
- Datblygu templedi polisi perthnasol
- Rhannu a benthyca adnoddau i gefnogi’r pynciau allweddol hyn
- Trefnu digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer ysgolion a sefydliadau partner
- Rhannu gwybodaeth drwy e-fwletinau, cylchlythyrau a’r cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffai eich ysgol gael rhagor o gymorth gyda’r cynllun, cysylltwch â’ch Swyddog Ysgolion Iach.
Gallwch ddod o hyd i ni ar Twitter: @YsgolionIachCaerdydd
Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd yn rhan o Wasanaeth Addysg y Cyngor, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (CYIRhC). Lansiwyd CYIRhC yn 1999 ac ‘Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cydnabod bod y CYIRhC yn chwarae rôl allweddol yn hyrwyddo iechyd plant a phobl ifanc’.
Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y CYIRhC: https://www.publichealthnetwork.cymru/cy/social-determinants/education/cynlluniau-ysgolion-iach-rhwydwaith-cymru/