Gwybodaeth

Yaseen

Mae Yaseen yn cerdded i’r ysgol bob dydd gyda’i fam, Adia.  Mae’n mynychu Ysgol Gynradd Gladstone ac mae’n 5 oed. Roedden nhw’n arfer byw ar y stryd nesaf i’r ysgol, ond pan symudon nhw i fyw dros dro gyda mam-gu a thad-cu, parhaodd Adia i gerdded gyda’i mab ifanc i’r ysgol. Dywedodd wrthon ni:

“Dydyn ni ddim yn byw’n bell, ac mae parcio’r car yn gymaint o drafferth.  Dim ond parcio preswylwyr sydd ar gael felly does unman i barcio. Mae’n llwybr syml i ni ac mae Yaseen wrth ei fodd yn cerdded, neu’n mynd ar ei sgwter weithiau. Mae’n mwynhau gweld ei ffrindiau ar y ffordd adref.  Pan fydd hi’n bwrw glaw, mae gan Yaseen ymbarél – mae’n dwlu ar ymbaréls!”

Soniodd am lawer o fanteision eraill a ddaw i Yaseen o gerdded i’r ysgol.

“Mae’n hoffi mynd i Tesco i brynu pethau ar y ffordd.  Mae wrth ei fodd yn pwyso’r botwm ac yn edrych i’r dde ac i’r chwith, ac mae e’n hoffi gweld y fenyw lolipop. Mae’n dysgu croesi’r heol yn ddiogel. Mae fy mhlentyn ifancaf, sy’n 8 mis oed, hefyd yn mwynhau’r daith gerdded o’i fygi erbyn hyn, ac mae Yaseen yn hoffi ei ddangos i’w ffrindiau yn yr ysgol!”

Siaradon ni â Yaseen am ei daith gerdded i’r ysgol, a sut i gadw’n ddiogel.  Er ei fod yn ifanc, mae’n amlwg bod Yaseen yn dysgu sut i groesi’n ddiogel.

“Rwy’n dal llaw oedolyn, ac yn edrych i’r chwith ac i’r dde”

Soniodd Adia hefyd am y pethau cadarnhaol iddi hi ei hun:

“Mae cerdded i’r ysgol yn fy nghadw’n actif, hyd yn oed os nad ydw i wedi gwneud unrhyw ymarfer corff arall yn ystod y dydd.”

Mae’r ffordd y tu allan i Ysgol Gynradd Gladstone wedi bod ar gau dros dro amser cyrraedd a gadael yr ysgol i sicrhau y gall teuluoedd gadw pellter cymdeithasol wrth gerdded i’r ysgol.  Mae Adia wedi sylwi ar hyn.

“Roedd pobl yn arfer parcio ar y llinellau melyn dwbl, roedd yn eithaf peryglus croesi, ac roedd yn peri cryn bryder. Byddai’n wych pe bai’r heol yn aros ar gau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw’n lleol a gallant gerdded.”

Mae gan Adia ambell gynllun at y dyfodol. Dywedodd wrthon ni fod Yaseen bellach yn dysgu reidio beic, ac efallai y bydd yn dechrau beicio i’r ysgol pan fydd yn barod. Maen nhw’n bwriadu symud, ac er y byddan nhw ymhellach o’r ysgol, maen nhw’n dal i fwriadu cerdded neu feicio.

“Bydd hi’n fwy o siwrnai felly bydd angen i fi amseru’r daith, ond mae rhoi plant mewn seddi ceir a’u tynnu nhw allan yn drafferthus, heb sôn am y sialens o ddod o hyd i le parcio”.