Beicio i Bawb Pedal Power Caerdydd
Cyhoeddwyd ar 04.06.2019

Ar ôl llwyddiant digamsyniol Diwrnod Dim Ceir Caerdydd y mis diwethaf, pan fu miloedd o bobl yn mwynhau’r rhyddid o feicio drwy ganol di-geir y ddinas, rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad beicio gwych arall – ‘Beicio i Bawb’ Pedal Power.

Mae Beicio i Bawb yn golygu hynny yn union – taith feics sy’n cynnwys pawb, o bob gallu ac oedran lle’ch gwahoddir i fynd ar gefn eich ceffyl haearn ac ymuno â Pedal Power i ddangos eich cefnogaeth o feicio cynhwysol ar ddydd Sadwrn 8 Mehefin.

Bydd y daith yn mynd o gwmpas rhai o adeiladau eiconig Caerdydd gan gynnwys Neuadd y Ddinas, Castell Caerdydd, Sgwâr Callaghan, Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a Morglawdd Bae Caerdydd, ac fe’i rhennir yn dri llwybr. Mae Llwybr A yn 1.5 milltir o hyd ac yn mynd â chi o Neuadd y Ddinas i Gastell Caerdydd, gan orffen yn Pedal Power ym Mhontcanna. Mae Llwybr B yn 2.5 milltir o hyd ac yn dilyn Llwybr A tan Gastell Caerdydd, yna’n mynd i Fae Caerdydd a’r Senedd. Dyma ddechrau Llwybr C lle gall pobl ymuno neu adael y daith, a pharhau o amgylch y Morglawdd gan ddilyn Taith Taf yn ôl i Pedal Power ym Mhontcanna, i gyflawni’r llwybr 9 milltir llawn, erbyn 4pm.

Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i cardiffpedalpower.org/rideforall. Gofynnir i bawb sy’n cofrestru i gyfrannu £6, gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn Pedal Power, yr elusen arobryn sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a darpariaeth sydd â’r nod o alluogi pawb i fwynhau buddion beicio, cynhwysiant cymdeithasol a gweithgareddau iechyd a lles.  

Mae’r 8fed o Fehefin hefyd yn ddechrau Wythnos y Beic, Cycling UK, sy’n ddathliad blynyddol o feicio ac yn dangos sut gall mynd ar gefn beic fod yn rhan hawdd o fywyd pob dydd.

Pedal 4 Pedal Power #p4p yw eich cyfle chi i helpu i roi’r cyfle i bawb i fwynhau beicio, drwy gael eich noddi i feicio 4 cilometr yn ystod mis Mehefin.  Gallwch feicio yn unman, ar y ffordd, oddi ar y ffordd, yn y parc neu ar lwybrau lleol. Am gymorth i gynllunio eich taith, beicio i’r ysgol neu’r gwaith, ble i logi beics a gwybodaeth am hyfforddiant beicio i oedolion hyd yn oed, ewch i cadwcaerdyddisymud.co.uk

Mae Pedal Power yn cynnig beicio i bawb, beth bynnag yw gallu neu anabledd y person, ac mae arnynt angen eich help i barhau i gynnig yr hyn sydd ganddynt. Mae 100% o’r arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at alluogi pobl i fwynhau buddion beicio.

Ymunwch â ni – Twitter #p4p #cadwcaerdyddisymud