CYNLLUN LLOGI BEIC AR Y STRYD CAERDYDD
Cyhoeddwyd ar 23.05.2018
Cyngor Caerdydd yn sicrhau cynllun llogi beiciau o’r radd flaenaf
Mae nextbike yn ddarparwr rhannu beiciau o fri byd-eang a bydd yn rheoli 500 o feiciau ar draws 50 o orsafoedd docio yn y ddinas. Bydd cam cyntaf y cynllun yn ei le erbyn Mai 2018 gyda gweddill y beiciau ar y stryd o fewn amserlen fer.
Mae’r Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth wedi croesawu cam cyntaf y cynllun, gan ddweud:
“Rydym wrth ein bodd i groesawu nextbike i Gaerdydd. Mae cynllun llogi beiciau yn rhan hanfodol o ddinas feiciau go iawn a ‘dw i wrth fy modd bod nextbike wedi gweld y potensial gwych sydd yng Nghaerdydd ar gyfer beicio. Rydyn ni wedi gweld sut mae’r cynllun beiciau yn wir wedi cynyddu hygyrchedd ac amlygrwydd beiciau yn Llundain ac rydyn ni’n credu y gwnaiff nextbike yr un peth yng Nghaerdydd. Mae Caerdydd yn ddinas gywasg ac eithaf fflat felly mae beicio’n ddewis da ar gyfer teithiau byr. Dim ond un rhan o gynlluniau’r Cabinet i wella’r seilwaith beicio yw hon, er mwyn annog pobl sy’n byw yn neu yn agos at y ddinas i adael eu ceir gartref ac ystyried opsiynau teithio eraill.”
“Gwyddom y bydd galw mawr am y beiciau hyn a diddordeb yn lleoliadau’r gorsafoedd docio. Byddem yn annog adborth gan y cyhoedd ac yn gofyn i bobl gwblhau holiadur ar-lein byr gyda’u syniadau https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=151249355464
Bydd y beiciau’n cynnwys technoleg flaengar a nodweddion diogelwch gwell, yn cynnwys cloeau blaen sy’n rhan o’r beic a thraciwr GPS.
Dywedodd Julian Scriven Rheolwr-Gyfarwyddwr nextbike UK y byddai Caerdydd yn elwa ar ei chanfed o’r cynllun.
Dywedodd Mr Scriven: “O ostwng tagfeydd a chreu swyddi newydd, i wella iechyd a symudedd, mae rhannu beiciau yn dwyn effaith real ym mhob man yr aiff.
“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod defnyddwyr rhannu beics yn gwario mwy mewn siopau lleol, mae prisiau tai wrth orsafoedd docio yn codi, ac mae’r galw am lefydd parcio yn gostwng ac felly hefyd tagfeydd a llygredd o ganlyniad.”
Mae Mr Scriven wedi nodi ei fod yn awyddus i integreiddio’r beiciau gyda gweithredwyr cludiant presennol a’r dyfodol. Mae cynlluniau yn America a Slofacia yn defnyddio dull un-cerdyn-i-bawb sy’n caniatáu i’r cwsmer gyfnewid rhwng beic, bws, rheilffordd neu dram heb ddefnyddio dulliau talu gwahanol.
Mae’r cwmni’n darparu mwy na 120 o gynlluniau ar draws pedwar cyfandir yn y byd. Yn y DU, lansiwyd eu cynllun cyntaf yng Nghaerfaddon yn 2014 ac erbyn hyn maent yn gweithredu ym Milton Keynes, Caerwysg, Belfast, Caeredin a Phrifysgol Warwick.
Yn ddiweddar, dyfarnodd Llywodraeth Cymru arian cyfalaf i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynllun yn y ddinas.