TEITHIO LLESOL CAERDYDD
Cyhoeddwyd ar 17.04.2019

TEITHIO LLESOL CAERDYDD

Mae Teithio Llesol Caerdydd yn ddull sy’n cael ei fabwysiadu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd i annog staff ac ymwelwyr â’n safleoedd i gerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ddefnyddio cerbyd allyriadau isel iawn. Mae hyn er mwyn helpu pobl yng Nghaerdydd i fod yn iachach ac yn hapusach, a gwella ansawdd yr aer ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Gallwch ddarllen mwy am y rhesymau pam mae newid y ffordd rydym yn teithio mor bwysig yn yr adroddiad Moving Forwards: Healthy travel for all in Cardiff and the Vale of Glamorgan. Mae bron i draean yr oedolion o oedran gweithio yng Nghaerdydd yn gweithio yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’r sefydliadau mwyaf yn y sector cyhoeddus yn y Ddinas wedi ymrwymo i’r Siarter Teithio’n Iach sy’n amlinellu 14 ymrwymiad y mae’r sefydliadau wedi’u gwneud i gefnogi teithio’n iach dros y cyfnod 2019-22.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y potensial i newid y ffordd yr ydym yn symud o amgylch Caerdydd a hoffem glywed gennych os hoffai eich sefydliad lofnodi’r Siarter.

I gael rhagor o wybodaeth am Teithio Llesol Caerdydd edrychwch ar y Siarter, neu cysylltwch â tom.porter@wales.nhs.uk