Gwybodaeth

Cysgodfannau Beiciau: Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad canlynol yn rhoi trosolwg o sut rydym yn prosesu eich data personol a pha hawliadau a hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Mae data personol yn golygu unrhyw ddata y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod. Ceir gwybodaeth fanwl am ddiogelu data ar wefan Cyngor Caerdydd yn: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Diogelwch-data-a-Rhyddid-Gwybodaeth/Pages/default.aspx.

At ba ddibenion ac ar ba sail gyfreithiol rydym yn prosesu eich data?

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i gasglu eich data personol yw cydsyniad.

Bydd eich data personol yn cael ei gasglu er mwyn coladu eich awgrymiadau mewn perthynas â lleoliadau cysgodfannau beiciau.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â diogeludata@caerdydd.gov.uk.

Pwy sy’n cael eich data personol?

Cyngor Caerdydd sy’n cadw’r holl ddata’n ddiogel. Byddwn yn defnyddio Arolwg Snap i gynorthwyo gyda’r arolwg cysgodfannau beiciau. I weld ei hysbysiad preifatrwydd ewch i https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-uk/.

Am ba hyd y caiff fy nata personol ei gadw?

Bydd y data personol a roddwch fel rhan o’r arolwg yn cael ei ddileu pan nad oes ei angen mwyach. Bydd hyn ar ôl pennu’r lleoliadau ar gyfer y cysgodfannau beiciau a’u cwblhau.

Beth yw eich hawliau?

Gallwch ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan Gyngor Caerdydd amdanoch. Gallwch hefyd ofyn am gywiro unrhyw ddata anghywir neu hen ddata. Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan wirir unrhyw gamgymeriadau, gwrthwynebu i ni brosesu neu drosglwyddo neu ofyn i ni ddileu eich data personol.

Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod.  Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Cyngor gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy’r wefan isod neu ei llinell gymorth. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/ neu drwy ffonio ei llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Tynnu eich caniatâd prosesu data yn ôl

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni drwy e-bost yn diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post i:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraethu Gwybodaeth

Neuadd y Sir

Glanfa’r Iwerydd

Caerdydd

CF10 4UW