Parcio i’r Anabl yng Nghaerdydd

Mae mannau parcio penodol ar gael i ddeiliaid Bathodyn Glas mewn llawer o leoedd ac mae ganddyn nhw’r opsiwn i ddefnyddio cyfleusterau parcio ar y stryd, hefyd.

Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am eich opsiynau ar dudalennau Parcio Bathodyn Glas y Cyngor. Cofiwch, efallai y bydd rhai meysydd parcio yn codi tâl ar ddeiliaid bathodyn anabl am barcio.

Mae App Parcio Caerdydd y Cyngor hefyd yn cynnwys hidlwr i weld lle mae mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas ar gael yng nghanol y ddinas. Mae modd i chi weld rhagor am hynny yma.